Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil a Datblygu a'r Cyhoedd

Beth yw gwaith ymchwil a pham mae'n bwysig?

Heb waith ymchwil, ni fyddai llawer o'r triniaethau a'r mathau o ofal rydym yn eu derbyn fel mater o drefn yn y GIG heddiw ar gael.

Mae'r cyhoedd yn chwarae rôl allweddol, oherwydd pe na byddai pobl yn cytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, ni fyddai'r triniaethau a'r gofal gwell yma'n bodoli.

Gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol mae llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys:

  • derbyn triniaeth newydd
  • ateb holiaduron
  • rhoi caniatâd i ymchwilwyr edrych ar eich nodiadau meddygol
  • rhoi sampl gwaed neu wrin 

Mae gwaith ymchwil yn rhan arferol o driniaeth a gofal yn GIG Cymru. Gallwch gael gwybod pam mae'n bwysig, sut i gymryd rhan, beth yw'r manteision a beth mae angen i bobl sy'n cymryd rhan ei wneud ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dilynwch ni