Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Gwirfoddoli i Bobl Ifanc dros yr Haf

Mae gan bob Haf stori... Beth fydd eich un chi?

Diolch am eich ymateb gwych. Mae'r holl slotiau ar gyfer gwneud cais bellach yn llawn, cymerwch olwg ar ein cyfleoedd eraill os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn bod yn Wirfoddolwr yn y Bwrdd Iechyd.

 
Beth ydyw?

Nid oes rhaid i chi fod â diddordeb mewn gyrfa yn y GIG na'r proffesiwn meddygol i wirfoddoli ar y prosiect hwn.  Mae gennym ddiddordeb mewn pobl ifanc o bob cefndir sy'n awyddus i wirfoddoli yn ystod yr haf ac sy'n ddibynadwy. Bydd lleoedd yn gyfyngedig a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis ar ôl cyfweliad.

Bydd gwirfoddolwyr YSP yn cael cyfle i brofi 3 rôl wirfoddol wrth iddynt symud drwy'r rhaglen.

  • Tîm Croeso
  • Ymgysylltu â Chleifion (wardiau a mannau cyhoeddus):

Dysgwch fwy am y tasgau a'r hyn a gewch o'r rhaglen trwy edrych ar y disgrifiad rôl

Meini prawf hyfforddiant
  • Pobl ifanc rhwng 16 ac 25 oed
  • Ar gael i wirfoddoli drwy gydol y rhaglen 6 wythnos
  • Yn gallu cyrraedd Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ysbyty Athrofaol Llandochau
 

Cymerwch olwg ar ein cyfleoedd eraill os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn bod yn Wirfoddolwr yn y Bwrdd Iechyd.