“Ein nod yw cynnig cyfleoedd i bobl ifanc 13-25 oed ymgymryd â rolau gwirfoddoli ystyrlon yn y Bwrdd Iechyd. Cenhadaeth ein gwirfoddolwyr ifanc yw sicrhau budd i'n cleifion, ymwelwyr, staff a nhw eu hunain. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle mae ein gwirfoddolwyr ifanc yn datblygu eu syniadau, dysgu sgiliau newydd a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu, ac yn rhan bwysig o'n cymuned.”
Profiad Gwaith
Nid yw gwirfoddoli a phrofiad gwaith yr un peth. Ni all y Gwasanaethau Gwirfoddol gynnig lleoliadau profiad gwaith na chyfleoedd cysgodi. Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu lleoliad profiad gwaith, bydd angen i chi gysylltu â'n hadran Profiad Gwaith.