Mae Uned Fasgwlaidd Ranbarthol Caerdydd yn darparu diagnosis a thriniaeth ar gyfer clefydau rhydwelïol, gwythiennol a lymffatig (y systemau cylchrediad gwaed a chludo hylif).
Diwrnod | Amser ac Amlder | Math | Lleoliad | Arweinydd |
Dydd Llun | 2pm | Cleifion Allanol Fasgwlaidd | Clinig 4 Ysbyty Athrofaol Cymru | Mr R Whiston, Mr I Williams |
Dydd Llun | 2pm | Clinigau Cloffni dan Arweiniad Nyrs | Clinig 6 Ysbyty Athrofaol Cymru | |
Dydd Mawrth | 2pm | Cyffredinol a Fasgwlaidd | Y Barri | Mr R Whiston |
Dydd Mercher | 2pm | Cyffredinol a Melanoma | Clinig 5 Ysbyty Athrofaol Cymru | Miss S Hill |
Dydd Iau | 2pm | Cleifion Allanol Fasgwlaidd | Clinig 5 Ysbyty Athrofaol Cymru | Mr J Harvey, Miss S Hill, Mr I Williams |
Dydd Iau | 2pm | Cyffredinol a Fasgwlaidd | Y Barri | Mr J Harvey |
Dydd Iau | 2pm | Clinigau Cloffni dan Arweiniad Nyrs | Clinig 5 Ysbyty Athrofaol Cymru |
Eich Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru
Beth yw Gwasanaethau Fasgwlaidd?
Y system fasgwlaidd yw’r rhwydwaith cydgysylltiedig o bibellau gwaed (gwythiennau a rhydwelïau) sy’n cysylltu â’r galon a’r ysgyfaint ac yn darparu ocsigen a maethynnau i holl organau a meinweoedd y corff. Mae gwasanaethau fasgwlaidd yn helpu i gynghori a thrin pobl pan fydd angen archwilio neu drin eu system fasgwlaidd, yn ogystal â darparu cyngor ar gynnal iechyd fasgwlaidd da.
Mae Gwasanaethau Fasgwlaidd yn Ne-ddwyrain Cymru bellach yn cael eu trefnu fel model prif ganolfan a lloerennau.
Mae’r model gofal newydd hwn wedi’i roi ar waith gan Rwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru i sicrhau bod y broses o ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel yn cael ei chynnal ar gyfer y dyfodol.
Mae’r trawsnewid yn cynnwys partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Nod Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru yw gwella canlyniadau cleifion, a darparu gwasanaethau fasgwlaidd cydlynol i boblogaeth ar draws ardal ddaearyddol eang sy’n cynnwys nifer o ysbytai gwahanol.
Sut olwg sydd ar y model gofal hwn?
Ysbyty Prif Ganolfan
Mae’r brif ganolfan yn derbyn yr holl argyfyngau fasgwlaidd sy’n gofyn am ymyrraeth fasgwlaidd neu endofasgwlaidd, ynghyd â gofal brys yr holl gleifion mewnol fasgwlaidd. Mae ganddi welyau penodedig ar gyfer cleifion mewnol fasgwlaidd mewn ward sydd wedi’i staffio gan nyrsys sydd â diddordeb mewn llawdriniaeth fasgwlaidd.
Ysbyty Athrofaol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw’r ysbyty prif ganolfan. Fe'i dewiswyd oherwydd yr amrywiaeth o wasanaethau acíwt sydd eisoes wedi'u sefydlu ar y safle fel darparwr arbenigol trawma mawr, cardioleg ymyriadol a llawdriniaeth gardio-thorasig. Oherwydd y cysylltiadau rhwng y gwasanaethau hyn a’r gwasanaeth fasgwlaidd, dyma’r opsiwn a ffafriwyd ar gyfer y brif ganolfan gan uwch feddygon o’r holl Fyrddau Iechyd dan sylw.
Ysbyty Lloeren
Wrth i gleifion ddechrau eu taith adfer ac adsefydlu, bydd eu gofal yn cael ei ddarparu mewn lleoliad ysbyty a chymunedol a fydd mor agos at eu cartref â phosibl.
O ystyried yr angen am Adran Damweiniau ac Achosion Brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaeth llawdriniaeth gyffredinol frys, mae’r ysbytai lloeren ar gyfer pob ardal Bwrdd Iechyd fel a ganlyn:
Sylwch fod cynlluniau yn eu lle i ysbyty lloeren Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddod yn Ysbyty Athrofaol Llandochau
Beth yw'r manteision i gleifion?
Mae cael gwasanaethau llawfeddygol fasgwlaidd mewn prif ganolfan gydag ysbytai lloeren ategol yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.
Credwn y bydd model rhwydwaith prif ganolfan a lloerennau ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd yn fwy gwydn a hyblyg ar gyfer y dyfodol, gan ein galluogi i wneud y canlynol:
Siaradwch â'n tîm os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.