Uwch Ymarferydd yw gweithiwr meddygol proffesiynol profiadol fel nyrs sydd wedi cael hyfforddiant pellach, a hwnnw fel arfer drwy gwrs lefel meistr, i dderbyn rôl estynedig sy'n cynnwys asesu cleifion clinigol, ymchwil, arwain ac addysg.
Gall Uwch Ymarferwyr weld claf drwy gydol ei siwrnai, o'r asesiad clinigol cyntaf, i'r diagnosis, gwneud cynlluniau am ymchwiliad, a thriniaeth - gan gynnwys rhagnodi meddyginiaeth.
Mae gennym nifer o Uwch Ymarferwyr ar draws y Bwrdd Iechyd mewn meysydd fel Paediatreg, Llawdriniaeth, Gofal Sylfaenol, Gofal y Tu Allan i Oriau ac Oncoleg Acíwt.
Cewch wybod rhagor am rôl Uwch Ymarferydd yn y fideo isod:
Gwyliwch hefyd ein Huwch Ymarferwyr yn egluro eu rolau'n fanylach: Marianne Jenkins, Paediatreg