Mae'r Uned Gofal Dwys Babanod Newydd-anedig (NICU) yn uned ranbarthol i Gymru ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae'n gweithio o fewn Rhwydwaith Babanod Newydd-anedig Cymru.
Mae'r uned yn darparu gofal lefel drydyddol i fabanod newydd-anedig y mae angen llawdriniaeth arnynt, i fabanod sy'n cael eu hatgyfeirio o wasanaeth meddygaeth y ffetws ac mae'n darparu gofal dwys newydd-anedig i boblogaeth leol Caerdydd a'r Fro. Rydym yn uned brysur gydag uchafswm o 30 crud i fabanod newydd-anedig.
Mae sawl rheswm pam mae angen derbyn babanod i'r NICU, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt naill ai wedi'u geni'n gynnar neu wedi'u geni i'w hamser ond yna'n mynd yn sâl. Rydym yn gofalu'n rheolaidd am fabanod a aned ar ôl cyn lleied â 24 wythnos o feichiogrwydd ac, weithiau, 23 wythnos o feichiogrwydd.
Yn ystod eu cyfnod yn yr uned, mae ar lawer o fabanod angen gwasanaeth gan ein cydweithwyr pediatrig arbenigol, sef gan y llawfeddygon pediatrig gan amlaf. Mae'r rhan fwyaf o fabanod newydd-anedig a dderbynnir yn atgyfeiriadau arbennig ar gyfer llawdriniaeth bediatrig, y Glust, Trwyn a'r Gwddf (ENT), Niwrowyddoniaeth neu Offthalmoleg.
Mae 3 uned lefel tri yn ne Cymru'n cefnogi'r Gwasanaeth Cludiant Babanod Newydd-anedig i dde Cymru.
Mae'r gwasanaeth yn un 7 niwrnod yr wythnos ac mae ar waith 12 awr y dydd.
Rydym yn casglu cleifion sy'n sâl iawn a, hefyd, yn mynd â babanod yn ôl i'w hysbyty gwreiddiol.