Neidio i'r prif gynnwy

Yr Uned Achosion Brys

Os ydych chi'n meddwl bod angen i chi gael eich gweld yn yr Uned Achosion Brys, dylech #FfonioynGyntaf ar 111.

Mae’r Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar agor 24 awr y dydd, bob dydd, ac mae yno i asesu a thrin y cleifion hynny sydd â’r angen mwyaf am ofal brys.

Dylai cleifion fynd i’r uned achosion brys os ydynt:

  • wedi profi anaf neu ddamwain difrifol
  • yn dangos symptomau o argyfwng meddygol (fel strôc neu drawiad ar y galon)
  • yn cael anhawster anadlu
  • mewn cyflwr o argyfwng neu ddeliriwm

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch pryd i fynychu mewn argyfwng trwy glicio ar y ddolen hon.

 

Sut i gael mynediad at yr Uned Achosion Brys

Ffoniwch 999 ar unwaith mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd.

Os ydych yn ansicr o’ch symptomau, neu pa gyngor meddygol sydd ei angen arnoch, gall gwefan GIG 111 Cymru helpu trwy gynnig cyngor, arweiniad, cyfeiriadur gwasanaethau a gwiriwr symptomau.

Os yw eich cyflwr yn un brys, ond nid yw’n bygwth bywyd, ffoniwch 111 cyn mynd i’r Uned Achosion Brys.

Drwy ffonio 111, gellir asesu eich cyflwr a rhoi cyngor ar y lle mwyaf priodol i chi gael y gofal iechyd sydd ei angen arnoch, gan nad yr Uned Achosion Brys yw’r ateb bob tro.

Gall cleifion gael mynediad at yr Uned Achosion Brys naill ai mewn ambiwlans mewn sefyllfaoedd brys, drwy gael eu cynghori i fynychu gan GIG 111 Cymru, neu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, neu drwy ddod i’r uned eu hunain mewn amgylchiadau brys.

Os ydych yn mynychu’r Uned Achosion Brys ar gyfer eich plentyn neu berson ifanc o dan 16 oed, gwneir hynny yn yr un ffordd ond gan ymweld â’r Uned Achosion Brys Pediatrig. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr Uned Achosion Brys Pediatrig drwy ddilyn y ddolen hon.

 

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cyrraedd yr Uned Achosion Brys?

Mae’r Uned Achosion Brys wedi’i lleoli ar lawr daear isaf Ysbyty Athrofaol Cymru, gyferbyn â’r maes parcio deulawr o flaen yr ysbyty. (whathreewords ///arena.claim.ranch).

Pan fyddwch yn mynychu ein Huned Achosion Brys, gallwch nawr ddisgwyl gweld ciosgau eTriage wrth gyrraedd.

Cyn mynd i mewn i’r Uned, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgriniau a mewnbynnu’r wybodaeth y gofynnir amdani. I gael rhagor o wybodaeth am eTriage, ewch i’r dudalen we hon.

Os nad ydych yn gallu defnyddio’r ciosgau eTriage, siaradwch â thîm y dderbynfa a fydd yn eich cofrestru wrth gyrraedd yr Uned Achosion Brys.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch wedyn yn cael eich gweld gan glinigydd a fydd yn asesu eich cyflwr. Gall yr asesiad hwn gynnwys ymchwiliadau ac archwiliad corfforol, megis profion gwaed, pelydrau-X ac ECGs.

Os ydych yn sâl iawn, byddwch yn cael eich gweld gan feddyg Meddygaeth Frys ac yn cael eich atgyfeirio at uned arbenigol neu eich derbyn i ward os oes angen.

Os nad oes angen i chi gael eich gweld yn yr Uned Achosion Brys, efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth mwy priodol ar gyfer eich anghenion, megis canolfan gofal sylfaenol brys, eich meddyg teulu neu aelod arall o’r tîm Gofal Sylfaenol.

Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu trin yn yr uned a’u hanfon adref, gyda chyfarwyddiadau ar beth i’w wneud nesaf.

 

Rhagor o wybodaeth

Mae ein Huned Achosion Brys yn parhau i fod dan bwysau sylweddol, ac rydym yn annog y cyhoedd i wneud defnydd o ddewisiadau eraill yn lle’r Uned Achosion Brys mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn rhai brys neu’n rhai sy’n bygwth bywyd.

Os ydych chi’n teimlo’n sâl ac yn ansicr o’ch symptomau, gall gwefan GIG 111 Cymru helpu. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth gofal iechyd, yn ogystal â gwiriwr symptomau a gellir cael mynediad ato trwy ddilyn y ddolen hon.

Hefyd, os oes angen cymorth gofal iechyd arnoch, gall eich tîm Gofal Sylfaenol yn y gymuned helpu. Eich tîm Gofal Sylfaenol yw eich man cychwyn ar gyfer eich anghenion gofal iechyd yn y gymuned ac os nad ydych yn siŵr pa aelod o’r tîm Gofal Sylfaenol sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion, gall y dudalen we hon helpu.

Os yw eich cyflwr yn un brys, ond nid yw’n bygwth bywyd, ffoniwch 111 i gael mynediad at ofal brys, y tu allan i oriau neu ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau.

Ewch i’r Uned Achosion Brys os yw hi’n argyfwng yn unig.

Dilynwch ni