Mae ffistwlâu coluddol yn gysylltiadau annormal rhwng dwy ran o'r llwybr gastroberfeddol, rhwng y perfedd a'r organau eraill (e.e. y bledren), neu rhwng y llwybr gastroberfeddol a'r croen (ffistwla enterocutaneous a elwir hefyd yn ECF). Wrth wneud hynny, gellir osgoi cyfran fawr o'r coluddyn sy’n golygu na all y perfedd amsugno maetholion a hylifau.
Mae tua 75%-85% o ECFau yn ffurfio ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf i'r coluddyn, a/neu ollyngiad o gysylltiadau’r coluddyn, gydag achos o ganser neu glefyd llid y coluddyn. Yn y 15-25% sy'n weddill, mae ECF yn ffurfio'n ddigymell oherwydd patholeg sylfaenol, fel clefyd Crohn.
Mae achosion eraill yn cynnwys radiotherapi, clefyd diferticwlar, canserau, haint mewn-abdomenol a thrawma. Mewn oedolion, mae ECFau ymhlith yr achosion mwyaf cyffredin o fethiant coluddol, gan olygu bod angen HPS hirdymor.
Cliciwch ar y ddolen hon am ragor o wybodaeth - Fistulas
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.