Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd Llid y Coluddyn

Crohns & Colitis UK

Mae clefyd llid y coluddyn yn derm cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio cyflyrau sy'n achosi llid yn y coluddyn. Efallai eich bod wedi cael gwybod bod angen Cymorth Parenterol (HPS) arnoch gan y gallai fod gennych glefyd Crohn neu gymhlethdodau o gyflwr o'r enw Llid Briwiol y Coluddyn. 

 

Mae clefyd Crohn yn gyflwr gydol oes lle mae rhannau o'r system dreulio yn mynd yn llidus. Yn anaml iawn, mae llid yn y coluddyn neu lawdriniaeth i gael gwared ar y coluddyn heintiedig yn atal y coluddyn rhag amsugno maetholion. Efallai y bydd angen Cymorth Parenterol i ailgyflenwi'r maetholion hyn tra bod y coluddyn yn addasu ar ôl tynnu’r coluddyn mawr neu fel cymorth dros dro i ganiatáu i feddyginiaethau weithio a datrys symptomau IBD fel rhwystriad.

 

Mewn achosion eithafol, lle mae'r clefyd yn gwaethygu'n fawr ac mae llawdriniaeth yn cynnwys tynnu'r rhan fwyaf o'r coluddyn bach, efallai y bydd angen HPS yn barhaol. 

 

Mae Llid Briwiol y Coluddyn yn gyflwr hirdymor lle mae'r coluddyn mawr a'r rectwm yn mynd yn llidus. Gall wlserau bach ffurfio ar leinin y wal a all waedu a chynhyrchu crawn. Yn anaml iawn y gall cymhlethdodau o Lid Briwiol y Coluddyn ddigwydd fel rhwystr yn y coluddyn. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen llawdriniaeth arnoch neu efallai y bydd angen HPS tymor byr arnoch i helpu i glirio’r rhwystr. Efallai y bydd angen HPS hirdymor mewn sefyllfaoedd lle bu cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth fel ffistwlâu sef tyllau bach sy'n arwain o'r coluddyn i agoriad yn y croen. 

Am ragor o wybodaeth am Glefyd Crohn a Cholitis cliciwch ar y dolenni isod - 

Crohn's disease - NHS (www.nhs.uk) 

Crohn's & Colitis UK 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni