Neidio i'r prif gynnwy

Meddyginiaeth a ddefnyddir i reoli Stoma Allbwn Uchel neu Ffistwla

 

Pa feddyginiaethau y gellir eu rhagnodi a sut maen nhw'n cael eu cymryd?

Gall eich tîm meddygol ragnodi meddyginiaethau sy'n lleihau faint o secretiadau sydd yn eich perfedd neu'n arafu'r cyflymder y mae bwyd yn symud trwy'ch coluddyn (cyfeiriwch at y llenyddiaeth a ddarperir gyda'r feddyginiaeth).

 

Omeprazole/Lansoprazole/Pantoprazole

  • Fe'i defnyddir i leihau faint o hylif ac asidedd yr hylif a gynhyrchir gan y stumog a lleddfu leinin y coluddyn
  • Cymerwch unwaith neu ddwywaith y dydd yn ôl cyngor eich meddyg
  • Ar gael mewn capsiwl, tabled neu ar ffurf sy’n gwasgaru yn y geg
  • Gellir ei roi’n fewnwythiennol os nad yw'ch tîm yn credu bod y ffurf drwy’r geg yn addas i chi

 

Loperamid/Imodium

  • Caiff ei ddefnyddio i arafu'r perfedd
  • Ar gael mewn capsiwlau 2mg, tabledi neu ar ffurf sy’n gwasgaru yn y geg
  • Efallai na fydd capsiwlau'n cael eu hamsugno felly tabledi sy’n gwasgaru yn y geg yw'r gorau.
  • Gall y dos amrywio o 2mg i 16mg a gymerir bedair gwaith y dydd. Bydd eich meddyg neu fferyllydd yn eich cynghori ar y dos i'w gymryd
  • Dylech fonitro'r effaith ar eich carthion
  • Cymerwch 30 munud cyn prydau bwyd

 

Codeine Phosphate

  • Caiff ei ddefnyddio i arafu'r perfedd
  • Fel arfer, y dos yw 30-60mg, a gymerir bedair gwaith y dydd er y gellir defnyddio dosau llai.
  • Cymerwch 30-60 munud cyn bwyd

 

 

Defnyddir y meddyginiaethau hyn yn aml ar y cyd â'i gilydd a gall y dos amrywio yn dibynnu ar eich allbwn. Bydd eich meddyg ymgynghorol neu'ch meddyg teulu yn eich cynghori ar hyn.

 

Lluosfitaminau a mwynau

Os oes gennych stoma allbwn uchel/neu ffistwla ac yn methu bwyta deiet ffibr uchel am fwy na mis neu'n methu bwyta 5 dogn bach o ffrwythau a llysiau bob dydd, efallai y bydd angen lluosfitamin arnoch. Os ydych chi ar faeth parenterol efallai bod y fitaminau hyn eisoes yn eich bwyd. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn bosibl, ac efallai y byddwch yn cael presgripsiwn am ddewis arall trwy'r geg os oes gennych y gallu i amsugno neu bigiad. Bydd eich tîm cymorth maeth yn penderfynu ar hyn. Rhowch wybod i'ch tîm os ydych chi'n cymryd neu'n bwriadu cymryd unrhyw luosfitaminau neu feddyginiaethau eraill gan y gall hyn arwain at gamddehongli eich profion gwaed.

 

Pigiadau fitamin B12

Os ydych chi wedi cael y rhan olaf o'ch coluddyn bach (ilewm) wedi'i thynnu, efallai y bydd angen pigiadau fitamin B12 arnoch chi bob 3 mis i atal anemia. Bydd eich meddyg yn eich cynghori ar hyn.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni