Neidio i'r prif gynnwy

Hylifau Ailhydradu

Mae 3 math gwahanol o Doddiannau Ailhydradu Drwy’r Geg (ORS) a bydd hyn yn cael ei benderfynu yn ôl angen clinigol a goddefgarwch. Efallai yr hoffech ddefnyddio gwelltyn, ei yfed wedi'i oeri gydag ychydig bach o sgwash heb siwgr er mwyn rhoi ychydig o flas ac i wneud eich diod yn fwy pleserus.

1). Dioralyte - Cymysgwch 8 sachet mewn 1L o ddŵr a’u hyfed drwy gydol y dydd. Mae hyn yn fwy na'r dos a nodir ar gyfarwyddiadau safonol y cynnyrch ac fe'i gelwir yn "gryfder" dwbl. 

2). St Mary's ORS - Cymysgwch 100ml mewn 900ml o ddŵr. Dim ond gan eich tîm Cymorth Maethol y gellir cael toddiant St Mary's

3). Rysáit cartref:

· 1 litr o ddŵr

  • Ychwanegwch 6 llwy de lefel (20g) o glwcos (siwgr)
  • Ychwanegwch 1 llwy de lefel (3.5g) o halen
  • Ychwanegwch 2.5g o bicarbonad sodiwm
  • Ychwanegwch uchafswm o 25ml o sgwash heb siwgr i roi blas a'i droi'n dda.
  • Storiwch yn yr oergell am hyd at 24 awr

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni