Neidio i'r prif gynnwy

Nofio gyda llinell Broviac

Cyngor i gleifion HPN ynghylch nofio 

Mae nofio yn cynyddu'r risg o haint a difrod i'r llinell.  Mae'r gwneuthurwyr yn datgan na ddylai’r llinell fod mewn dŵr felly ni allwn argymell nofio. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli y gallai hyn fod yn gyfyngol i chi a byddem yn eich cynghori, os ydych yn dewis nofio, eich bod yn dilyn y canllawiau hyn. 

  

  • Arhoswch am o leiaf 3 wythnos ar ôl mewnosod llinell newydd 

  • Nofiwch mewn pyllau clorinedig neu ddyfroedd môr glân 

  • Peidiwch â nofio os oes gennych haint yn y man lle ddaeth y nodwydd allan 

  • Peidiwch â nofio mewn dŵr sy'n amlwg yn fudr neu'n fwdlyd nac mewn traethau llygredig 

  • Peidiwch â defnyddio twbiau poeth 

  

Gofalu am y llinell wrth nofio 

Er mwyn lleihau'r risg o haint a difrod posibl i'r llinell, rydym yn awgrymu eich bod yn gorchuddio'r llinell â dresin mawr sy'n dal dŵr.  Rhaid i'r dresin fod yn ddigon mawr i orchuddio'r llinell a'r hyb yn llwyr fel y dangosir isod.  Gellir cael dresin addas gan Boots® neu unrhyw fferyllfa fawr.  

  

  • Coiliwch y llinell dros y dresin ar y man lle ddaeth y nodwydd allan. 

  • Gorchuddiwch y llinell wedi’i choilio gyda dresin sy’n dal dŵr 

  

Diogelu'r llinell gyda dresin sy’n dal dŵr wrth nofio 

Gofal ar ôl nofio 

Ar ôl i chi nofio, byddem yn argymell eich bod yn newid eich dresin ac yn glanhau'r man lle ddaeth y nodwydd allan. Gall gor-ddefnyddio cloroprep pan fyddwch yn newid dresin achosi llid ar y croen a all ddatblygu'n haint yn y man lle ddaeth y nodwydd allan neu oddi tano. Os ydych chi'n newid y dresin yn amlach nag unwaith yr wythnos, yna dylid defnyddio ‘saline’.  Ar ôl nofio, y tro nesaf y byddwch chi'n mynd at eich llinell dylech chi roi dyfais newydd heb nodwydd rhag ofn bod dŵr wedi mynd i mewn i’r porth curos/cap y swab. Os ydych chi'n bwriadu nofio neu wneud unrhyw chwaraeon sy'n gysylltiedig â dŵr yn rheolaidd, byddem yn argymell eich bod chi'n prynu siwt sych a fydd yn atal unrhyw ddŵr rhag dod i gysylltiad â'r llinell neu'r croen o'i chwmpas.  Mae fersiwn llewys byr ar gael gan Hammonds Dry Suits www.hammond.drysuits.co.uk. Osgowch ddefnyddio twbiau poeth gan y gall y gwres, cemegau a dŵr gynyddu'r risg o haint. 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni