Efallai y bydd llawdriniaeth coluddol yn cael ei hargymell i drin achos y methiant coluddol. Gall y triniaethau gynnwys tynnu rhan o'r coluddyn sydd wedi'i difrodi neu wedi'i heintio, lleddfu rhwystr neu greu ffordd ddiogel i wastraff adael y corff (stoma), atgyweirio ffistwlâu, ailadeiladu'r llwybr treulio neu gynnal technegau ymestyn y coluddyn i wella amsugno. Nod llawdriniaeth yw adfer neu wella gweithrediad y perfedd, lleihau cymhlethdodau a, lle bo modd, lleihau dibyniaeth ar Gymorth Parenterol Gartref (HPS).
Mae'r llawdriniaeth yn cael ei chynllunio'n ofalus gan eich timau llawfeddygol a maeth, gan ystyried eich iechyd cyffredinol, eich statws maethol a'ch nodau personol. Yn aml, mae angen llawdriniaeth agored yn y mwyafrif helaeth o achosion, fodd bynnag, gellir cynnal llawdriniaeth twll clo (laparosgopig) mewn nifer dethol iawn o achosion cleifion, yn dibynnu ar eich cyflwr a llawdriniaethau blaenorol.
Cyn y llawdriniaeth byddwch yn cael sawl prawf (gan gynnwys profion gwaed a sganiau radioleg) ac asesiad cyn llawdriniaeth i wirio'ch ffitrwydd ar gyfer llawdriniaeth; efallai y gofynnir i chi roi'r gorau i rai meddyginiaethau a dilyn cyfarwyddiadau arbennig ynghylch bwyta, yfed a pharatoi'r coluddyn. Ar ddiwrnod y llawdriniaeth, byddwch yn cwrdd â'r anesthetydd i drafod rheoli poen a'r cynllun uniongyrchol.
Ar ôl y llawdriniaeth gallwch ddisgwyl cyfnod o fonitro agos yn yr ysbyty. Bydd poen yn cael ei rheoli gyda meddyginiaethau, a bydd staff yn gwirio'ch clwyfau, draeniau a stoma (os yw un wedi'i ffurfio). Efallai y bydd yn cymryd amser i'ch coluddyn ddechrau gweithio eto — efallai y byddwch chi'n cael drip ar gyfer hylifau a maeth i ddechrau ac yn dychwelyd yn raddol i gymryd pethau drwy’r geg wrth i'ch perfedd wella. Mae arhosiadau ysbyty yn amrywio ond fel arfer maent yn sawl diwrnod i wythnos neu fwy yn dibynnu ar y driniaeth a pha mor gyflym y byddwch chi'n gwella.
Mae problemau cynnar cyffredin yn cynnwys blinder, llai o archwaeth, newidiadau yn arferion y coluddyn, a chlwyfau poenus; gallech fod angen mynd i’r tŷ bach yn amlach neu'n afreolaidd am wythnosau tra ei fod yn addasu. Mae cymhlethdodau posibl (y bydd eich tîm yn eu hesbonio) yn cynnwys haint, gwaedu, clotiau gwaed, problemau clwyfau, neu broblemau ble mae’r coluddyn wedi’i gysylltu, fel gollyngiad; os bydd stoma yn cael ei ffurfio byddwch yn derbyn hyfforddiant gofal stoma. Os oes angen maeth parenterol arnoch eisoes neu os gallai fod ei angen arnoch, bydd y tîm maeth yn cynllunio hyn gyda chi cyn, ac ar ôl llawdriniaeth.
Cyn i chi adael yr ysbyty, byddwch yn cael cyngor ysgrifenedig wrth eich rhyddhau am ofal clwyfau, meddyginiaethau, deiet, terfynau gweithgaredd (osgoi codi pethau trwm tra bod eich abdomen yn gwella), ac apwyntiadau dilynol. Byddwch yn cael cyfarwyddiadau clir ynghylch pwy i gysylltu ag ef os oes gennych dwymyn, poen cynyddol, cochni’r clwyf neu ddraeniad, chwydu, neu symptomau pryderus eraill. Mae’n cymryd amser i wella gartref — disgwyliwch fod yn flinedig ac i gynyddu gweithgarwch yn araf dros wythnosau i fisoedd, gydag adolygiadau clinig rheolaidd a phrofion gwaed yn ôl yr angen.
Beth i ddod ag ef i’ch Apwyntiad Llawfeddygol: rhestr o feddyginiaethau cyfredol, unrhyw gwestiynau am reoli eich gofal yn llawfeddygol, a manylion cyswllt eich gofalwr neu'ch perthynas agosaf. Mae eich timau llawfeddygol a maeth yno i'ch cefnogi a byddant yn egluro'r risgiau a'r manteision penodol ar gyfer eich sefyllfa.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.