Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a Chymorth Ychwanegol

Trydan

Dylech gysylltu â'ch darparwr trydan neu glicio yma i gofrestru fel defnyddiwr brys neu flaenoriaeth. Mae hyn yn golygu, os bydd toriad pŵer, y byddwch yn cael blaenoriaeth ar gyfer cyflenwad pŵer brys. Os byddwch yn colli pŵer, ffoniwch Western Power Distribution ar 0800 6783105. Gwiriwch dymheredd yr oergell a'i chadw ar gau - bydd y bagiau hylif yn dal i fod yn iawn am hyd at 6 awr. Os yw'r pŵer i ffwrdd am fwy na 6 awr, cysylltwch â'r cwmni gofal cartref a'r NST. Gallwch ddefnyddio un bag hylif y noson honno cyn belled â bod y trwythiad yn gorffen o fewn 24 awr ar ôl i'r bag hylif fod ar dymheredd ystafell. Peidiwch â defnyddio unrhyw fagiau hylif eraill, bydd rhai newydd yn cael eu cyflenwi.

Dŵr

Cofrestrwch ar gyfer dŵr brys rhag ofn bydd llifogydd neu achos o golli cyflenwad dŵr. Ffoniwch Dŵr Cymru ar 0800 0520130 a fydd yn rhoi cyngor i chi ar beth i'w wneud mewn argyfwng. Efallai y bydd angen dŵr potel ar gyfer golchi dwylo. 

Gwaredu Gwastraff

Byddwch yn cael bin “offer miniog”. Defnyddir hwn i gael gwared ar wastraff clinigol fel y bagiau hylif  gwag a nodwyddau a chwistrelli. Bydd hwn yn cael ei gasglu gan y Cwmni Gofal Cartref. Gellir rhoi pob gwastraff arall fel rhwyllen a weips yng ngwastraff eich awdurdod lleol - cysylltwch â nhw os oes gennych unrhyw bryderon.

Cymorth ariannol

Efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau ychwanegol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Cysylltwch â'r Adran Gwaith a Phensiynau neu'r Swyddfa Cyngor ar Bopeth neu PINNT.

PINNT - www.PINNT.com

Mae PINNT (Patients on Intravenous and Nasogastric Nutrition Therapy) yn grŵp cymorth rhad ac am ddim i ymuno ag ef i bobl sy'n derbyn maeth artiffisial ac mae'n darparu gwybodaeth a chymorth i aelodau trwy gylchlythyrau a chyfarfodydd lleol a chenedlaethol.

Gwybodaeth Teithio

Mae'r Cwmnïau Gofal Cartref a thîm IF&R Caerdydd yn gallu eich cefnogi i fynd ar wyliau dramor ac yn y DU gyda rhywfaint o drefnu a chynllunio gofalus. Bydd angen llythyr arnoch chi sy'n dangos eich bod chi'n ffit i hedfan ac ar gyfer offer, ac efallai y bydd angen gwneud newidiadau i'ch presgripsiwn, a dylid trafod hyn gyda'r tîm a'ch cwmni gofal cartref cyn trefnu’ch gwyliau.

 

 

 

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni