Neidio i'r prif gynnwy

Addysg a Chyfarwyddyd Cleifion

Yn yr adran hon byddwch yn gallu gweld fideos a thaflenni atgoffa ar sut i reoli eich cymorth parenterol gartref yn annibynnol yn ogystal â chynnal eich iechyd a'ch lles. Rydym yn annog annibyniaeth yn gryf os oes gan berson y gallu i wneud hynny. Os na allwch chi wneud y triniaethau eich hun, efallai y bydd modd hyfforddi perthynas i'w gwneud ar eich rhan. Gall hyn roi hyblygrwydd o ran pryd y byddwch chi'n cael eich trwythiad a bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi. Mae’n well gan y rhan fwyaf o gleifion gael y trwythiad yn ystod y nos.  

Bydd eich nyrsys arbenigol yno i'ch arwain drwy gydol eich hyfforddiant. Byddwch yn cael pecyn hyfforddi gyda phopeth sydd angen i chi ei wybod am eich llinell newydd a sut i ddod yn glaf HPS annibynnol. 

Bydd ein nyrsys yn cynnig cymorth llawn tra fyddwch yn yr ysbyty a gallant addasu unrhyw hyfforddiant i ddiwallu eich anghenion unigol. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n hollol barod pan fyddwch yn cael eich rhyddhau. Bydd ein nyrsys gofal cartref medrus iawn yn gallu parhau ag unrhyw hyfforddiant yn ddiogel gartref. Y cyfan rydyn ni'n ei ofyn yw eich bod chi'n dilyn y gweithdrefnau ac yn aros yn iach.  

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni