Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Anhwylderau Gwaedu Cymru

Blood cells

Mae Rhwydwaith Anhwylderau Gwaedu Cymru wedi’i leoli ar draws dwy Ganolfan Gofal Cynhwysfawr Hemoffilia yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Rydym yn darparu gofal arbenigol i bobl sy’n byw gydag anhwylder gwaedu yng Nghymru gan gynnwys y rhai â

  • Hemoffilia
  • Clefyd Von Willebrand
  • Anhwylder platennau
  • Chyflyrau gwaedu prin.

Beth yw anhwylderau gwaedu?

Mae anhwylderau gwaedu yn grŵp o gyflyrau lle mae problem gyda phroses ceulo gwaed y corff. Mae’r anhwylderau hyn yn aml yn cael eu hetifeddu a gallant arwain at waedu trwm ac estynedig ar ôl anaf neu lawdriniaeth. Gall gwaedu hefyd ddechrau ar ei ben ei hun a gall fod yn anodd ei stopio.

Mae’r corff yn cynhyrchu 13 ffactor ceulo. Os oes unrhyw un ohonynt yn ddiffygiol, gall gallu’r gwaed i geulo gael ei effeithio, gan arwain at anhwylder gwaedu ysgafn, cymedrol neu ddifrifol.

Yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr anhwylder, gellir defnyddio triniaeth broffylactig i atal gwaedu, neu driniaeth ar alw pan fyddwch yn cael anaf neu lawdriniaeth. Gall y tîm drafod beth mae’ch cyflwr yn ei olygu i chi a sut i lwyddo i fyw’n dda pan fydd gennych anhwylder gwaedu.

 Gall anhwylderau gwaedu effeithio ar sawl agwedd ar fywyd gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol, lles, gwaith a chydberthnasau. Mae ein tîm ar draws Caerdydd ac Abertawe wedi’i sefydlu i helpu i reoli’r holl faterion gwahanol hyn, a dyna pam mae gennym lawer o bobl yn ein tîm ar draws nifer o broffesiynau.

 

Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ar gyfer Caerdydd ac Abertawe

Ffoniwch switsfwrdd Ysbyty Athrofaol Cymru ar 029 2074 7747 a gofynnwch am y Meddyg Hemoffilia ar alw os oes gennych anaf neu os ydych yn amau gwaedu. Maent ar gael 24 awr y dydd fel gwasanaeth mynediad agored i unrhyw un sydd â phroblem gwaedu.

Os oes angen i chi fynd i’r Uned Achosion Brys, fe’ch cynghorir i roi gwybod i’r Cofrestrydd Hematoleg cyn i chi gyrraedd. Dewch â’ch cerdyn anhwylder gwaedu gyda chi.

Os oes angen ambiwlans brys arnoch, dylech ofyn iddo ddod â chi i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael gofal hemoffilia arbenigol.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni