Neidio i'r prif gynnwy

Rhewmatoleg

Croeso i’r Adran Rhewmatoleg

Adran Rhewmatoleg, Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XW

Mae’r Adran Rhewmatoleg wedi’i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandochau sy’n cynnig gwasanaethau cleifion allanol ac achosion dydd.

Mae ein rhewmatolegwyr yn cynnal clinigau arbenigol ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar y cymalau a meinweoedd cyfagos fel arthritis, meinwe gysylltiol a chlefyd awto-imiwn.

Mae’r cyflyrau sy’n cael eu trin yn cynnwys arthritis, osteoporosis, meinweoedd cysylltiol a chlefydau awto-imiwn systemig eraill.

Mae ein Hadran yn arbenigo mewn rhoi diagnosis, trin a rheoli’n barhaus ystod eang o gyflyrau sy’n effeithio ar y cymalau a’r meinweoedd cyfagos. Darperir pigiadau cymalau a meinwe meddal o fewn clinigau cyffredinol, trefnir clinigau pigiadau cymalau o dan arweiniad radiograffig gyda’r adran radioleg.

Gyda dros 200 math o arthritis ac afiechyd gwynegol, mae’r adran yn cynnig gwasanaeth diagnostig a thriniaeth gynhwysfawr, trwy apwyntiadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Mae clinigau arbenigol yn cael eu cynnal ar gyfer monitro meddyginiaeth, gan gynnwys therapïau meddyginiaethau biolegol ac addasu clefydau. Mae cleifion â chyflyrau llidiol, fel arthritis gwynegol, clefydau meinwe cysylltiol a spondyloarthropathïau, yn cael eu holrhain yn y gwasanaeth.

Cynhelir triniaeth gyda chyffuriau biolegol (gwrth-TNF) yn yr uned ddydd.

Lleoliad

Mae’r adran Rhewmatoleg yn cynnal apwyntiadau o’r Uned Ddydd Rhewmatoleg ac o’r adran cleifion allanol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Coridor Cleifion Allan
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Prif Adran Cleifion Allanol
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Ffordd Penlan
Llandochau
CF64 2XX

Parcio Caerdydd a’r Fro

Am fwy o fanylion am barcio, gallwch ymweld â Thudalen Barcio BIP Caerdydd a’r Fro.

Yn gyffredinol, caiff y rhai dan 16 oed eu trin mewn gwasanaethau rhewmatoleg pediatrig, cyn dechrau trosglwyddo i ofal mewn lleoliadau rhewmatoleg oedolion.

Cyngor am apwyntiadau

Os hoffech wybod pryd y bydd eich apwyntiad nesaf, neu i’w aildrefnu, ffoniwch y rhif ffôn trefnu apwyntiadau: 02920 748181

PIFU (Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf) neu SOS (Sylw yn ôl Symptomau)

Manylion Cyswllt: 029 21848181 neu e-bostiwch: Cav.appointments@wales.nhs.uk

Rhifau cyswllt defnyddiol

Rhif ffôn trefnu apwyntiadau: 02920 748181

Christian Byard: Ysgrifennydd Dr Jones, Dr Al-Mudhaffer 02921 842627

Helen Jones: Yr Ysgrifennydd Dr Beynon, Dr Lawson a Dr Prasad. 02921 842346

Cathryn Donald: Ysgrifennydd Dr Negi, Dr Davies 02921 842626

Meddalwedd Rhewmatoleg

http://10.59.11.51:8080/cellmaWEB/index.do

Cwrdd â’r Tîm

Dr Sharon Jones BM, MD, FRCP

Cyfarwyddwr Clinigol

Rhewmatolegydd Ymgynghorol

Ysgrifennydd: Christian Byard 02921 842627

Dr Al-Mudhaffer

Dr Tom Lawson

Rhewmatolegydd Ymgynghorol

Ysgrifennydd: Helen Jones 02921 842346

Dr Celia Beynon

Rhewmatolegydd Ymgynghorol

Ysgrifennydd: Ysgrifennydd: Helen Jones 02921 842346

Dr Roopa Prasad

Dr Anurag Negi MBBS, FRCP

Rhewmatolegydd Ymgynghorol

Ysgrifennydd: Cathryn Donald 02921 842626

Dr Ruth Davies

Cwestiynau cyffredin:

Dolen i wefan Versus arthritis i gael llawer o wybodaeth ddefnyddiol am feddyginiaethau a chyflyrau rhewmatolegol: https://versusarthritis.org

Gwybodaeth am Frechiadau

  1. Pa frechiadau sy’n ddiogel i mi eu cael gyda’m meddyginiaethau?

Os yw eich system imiwnedd yn wan yn sgil meddyginiaeth, mae’n bwysig eich bod yn cael eich diogelu’n ddigonol. Argymhellir fel arfer i gael y brechiad rhag y ffliw, Covid a’r brechiad niwmococol.

Os ydych chi’n derbyn triniaeth gyda chyffuriau atal imiwnedd fel methotrexate, leflunomide, azathioprine, meddyginiaethau biolegol a steroidau dos uchel (20mg o brednisolone drwy’r geg bob dydd neu fwy am dros 14 diwrnod) dylech osgoi brechiadau ‘byw’: mae’r rhain yn cynnwys brechlyn polio drwy’r geg, BCG, MMR, brechlyn y dwymyn felen a brech goch yr Almaen (rwbela). Mae brechlyn polio anweithredol amgen ar gael, os oes angen.

Dylech hefyd osgoi cyswllt, lle bo hynny’n bosibl, gydag oedolion neu blant sydd wedi derbyn y brechlyn polio ‘byw’ drwy’r geg am 6 wythnos ar ôl y brechu: yn benodol ni ddylech newid cewynnau babanod, gan y byddant yn ysgarthu’r feirws polio byw yn eu hysgarthion am y cyfnod hwn.

Gall brechu yn erbyn y dwymyn felen fod yn ofyniad o ran mynediad i rai gwledydd, felly trafodwch hyn gyda’ch meddyg teulu cyn gwneud trefniadau teithio. Os ydych yn bwriadu teithio dramor, dylech ofyn am gyngor gan eich meddyg teulu o leiaf chwe wythnos cyn gadael gan y gallai fod angen archebu rhai brechiadau.

Gweler Brechiadau | Sgil-effeithiau, amddiffyniad a haint (versusarthritis.org) am fwy o wybodaeth

  1. A ddylwn i atal rhag cymryd meddyginiaeth os ydw i’n cael brechiad rhag y ffliw neu Covid?

Covid: Mae rhywfaint o dystiolaeth y gallai atal cymryd meddyginiaeth Methotrexate, Abatacept a Rituximab ar ôl y brechiad wella ymateb eich corff i’r brechiad Covid.

Gellir atal Methotrexate am 2 wythnos ar ôl y brechiad Covid neu’r dos atgyfnerthu.

Gellir atal Abatacept am wythnos ar ôl y brechiad Covid.

Dylid rhoi brechiad Covid o leiaf 4 wythnos cyn Rituximab ac os ydych chi eisoes wedi cael Rituximab, mae’n well aros 4 mis ar ôl y trwythiad i gael y brechiad Covid.

Rydym yn argymell parhau â DMARDs a meddyginiaethau biolegol confensiynol eraill.

Ffliw: Os ydych chi’n cael eich trin â Rituximab, dylech geisio cael y brechiad rhag y ffliw naill ai 4 wythnos cyn y trwythiad neu 6 mis ar ôl y trwythiad. Os rhoddir y brechiad rhag y ffliw o fewn 6 mis ar ôl trwythiad Rituximab efallai na fyddwch yn cael eich amddiffyn yn llawn rhag y ffliw. Nid oes angen rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaethau biolegol eraill a DMARDs cyn/ar ôl y brechiad rhag y ffliw.

Cyngor am fflamychiadau arthritis gwynegol (RA)

  1. Beth yw fflamychiad?

Mae gweithgarwch arthritis llidiol yn amrywio a bydd adegau pan fydd eich arthritis yn llonydd ac yn hawdd ymdopi ag ef.

  • Gall ‘fflamychiad’ arthritis arwain at rai o’r symptomau canlynol:
  • Poen yn gwaethygu yn y cymalau
  • Mwy o chwyddo a/neu anystwythder yn y cymalau
  • Teimlo’n fwy blinedig
  • Teimlo’n ‘sâl’ yn gyffredinol

Gall fflamychiad bara am oriau, dyddiau neu wythnosau. Mae rhai sbardunau fflamychiad yn cynnwys haint, fel haint ar y frest neu wrinol, neu straen corfforol neu feddyliol. Weithiau nid oes sbardun amlwg. Os oes gennych haint, mae’n well ymgynghori â’ch meddyg teulu, oherwydd efallai y bydd angen triniaeth arnoch.

  1. Meddyginiaeth ar gyfer fflamychiadau

Dylai cymryd eich poenladdwyr a/neu eich tabledi gwrthlidiol yn rheolaidd helpu i reoli’r boen. Peidiwch â chymryd mwy na’r dos uchaf a argymhellir.

Dylech barhau i gymryd eich meddyginiaethau arferol eraill. Os ydych yn cymryd tabledi steroid, mae’n bwysig nad ydych yn newid y dos heb ymgynghori â’ch meddyg teulu neu aelod o’r tîm Rhewmatoleg, oni bai bod hyn wedi’i gytuno ymlaen llaw.

Gellir defnyddio geliau gwrthlidiol yn lleol ar gymalau chwyddedig a llidus gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

  1. Gwres neu oerfel ar gyfer fflamychiadau

Gall gwres neu oerfel ar gymalau leihau poen a llid.

  • Gwres: bag gwenith, potel dŵr poeth, pad gwres.
  • Oerfel: bag o giwbiau iâ neu bys wedi’u rhewi, bag gwenith neu becyn gel.

Gellir rhoi’r triniaethau hyn am hyd at 15 munud. Rhowch dywel rhwng y croen a’r ffynhonnell gwres/oerfel bob amser i atal llosg neu ddifrod i’r croen.

  1. Gorffwys ac ymarfer corff ar gyfer fflamychiadau

Yn ystod fflamychiad, mae’n bwysig pwyllo. Y peth gorau yw cynllunio’ch diwrnod gan ystyried eich blinder cynyddol.

Efallai y bydd angen gorffwys am funud rhwng gweithgareddau ond mae’n well cadw’ch cymalau i symud. Bydd hyn yn helpu i atal anystwythder a chynnal cryfder eich cyhyrau.

  1. Beth ddylwn i ei wneud os nad yw fy fflamychiad yn setlo?

Os nad yw eich fflamychiad wedi ymateb i’r triniaethau hyn ar ôl saith diwrnod ac mae angen cymorth pellach arnoch, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu neu’r llinell gymorth rhewmatoleg i gael cyngor a/neu driniaeth.

Rhoi’r gorau i gymryd DMARD/meddyginiaeth fiolegol os yn sâl

  1. A ddylwn i roi’r gorau i gymryd fy DMARD/meddyginiaeth fiolegol os ydw i’n sâl?

DMARD: Os ydych chi’n cymryd Methotrexate neu Leflunomide, rydym yn eich cynghori i roi’r gorau i’r rhain os byddwch yn datblygu haint. Fel arfer nid oes angen i chi roi’r gorau i driniaeth arall sy’n addasu clefydau (fel hydroxychloroquine a sulfasalazine) wrth gymryd gwrthfiotigau. Os ydych ar wrthfiotigau tymor hir ar gyfer cyflwr arall, trafodwch â’ch rhewmatolegydd.

Meddyginiaethau biolegol: Ni ddylech gymryd meddyginiaethau biolegol os ydych yn sâl yn sgil haint neu’n cymryd gwrthfiotigau. Gellir eu hailgychwyn unwaith y byddwch chi’n teimlo’n dda ac wedi gorffen y gwrthfiotigau.

Os oes gennych symptomau haint, efallai y bydd angen i chi weld eich meddyg teulu. Os oes gennych symptomau haint ac yn dod am drwythiad biolegol ar yr uned ddydd, mae’n debygol y bydd angen gohirio hyn nes bod yr haint yn clirio/eich bod wedi gorffen y gwrthfiotigau.

Rhoi’r gorau i feddyginiaeth cyn llawdriniaeth

  1. A ddylwn i roi’r gorau i gymryd DMARD os ydw i’n cael llawdriniaeth?

Nid oes tystiolaeth argyhoeddiadol bod parhau â’r meddyginiaethau hyn (methotrexate, leflunomide, sulphasalazine, hydroxychloroquine, ciclosporin, mycophenolate mofetil) yn effeithio ar lawdriniaeth. Gallai rhoi’r gorau i’w cymryd achosi fflamychiad yn eich cyflwr a all achosi mwy o broblemau. Felly, rydym yn argymell parhau â nhw. Fodd bynnag, os oes gan y tîm llawfeddygol bryderon penodol am achosion unigol, gallant gysylltu â ni.

  1. A ddylwn i roi’r gorau i gymryd meddyginiaethau biolegol os ydw i’n cael llawdriniaeth neu echdyniad deintyddol?

Dylid rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaethau biolegol cyn llawdriniaeth ac echdyniad deintyddol, gweler y tabl isod am ganllawiau ar feddyginiaethau biolegol unigol.

Gellir ailgychwyn meddyginiaethau biolegol tua 14 diwrnod ar ôl llawdriniaeth unwaith y bydd y tîm llawfeddygol yn hapus gyda’r clwyf, bod ardal y llawdriniaeth yn gwella’n dda ac nad oes arwyddion o haint lleol neu systemig.

Cyffur

Amlder Dosio Arferol

Sawl wythnos ar ôl y dos diwethaf y dylid trefnu llawdriniaeth?

Etanercept (Benepali, Enbrel)

Bob wythnos

Wythnos 2

Adalimumab (Yuflyma, Amgevita, Humira)

Bob 2 wythnos

Wythnos 3

Certolizumab (Cimzia)

Bob 3 wythnos

Wythnos 3

Golimumab (Simponi)

Bob 4 wythnos

Wythnos 5

Infliximab

Bob 4, 6 neu 8 wythnos

Wythnos 5, 7 neu 9

Sarilumab (Kevzara)

Bob 2 wythnos

Wythnos 4

Tocilizumab IV

Tocilizumab subcutaneous (Actemra)

Bob 4 wythnos

Bob wythnos

Wythnos 5

Wythnos 3

Secukinumab (Coseyntx)

Bob mis

Wythnos 12 

Ixekizumab (Taltz)

Bob mis

Wythnos 10

Ustekinumab (Stelera)

Bob 12 wythnos

Wythnos 13

Abatacept IV

Abatacept subcutaneous (Orencia)

Bob mis

Bob wythnos

Wythnos 5

Wythnos 2

Guselkumab (Tremfya)

4-8 wythnos

Wythnos 5-9

Risankizumab (Skyrizi)

Bob mis

Wythnos 5

Baracitinib (Oliuminat)

Bob dydd

Rhoi’r gorau i ddosio 2 ddiwrnod cyn llawdriniaeth

Tofacitinib  (Xeljanz)

Dwywaith y dydd

Filgotinib (Jyseleca)

Upadacitinib (Rinvoq)

Apremillast

Rituximab

Nid oes angen rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaethau biolegol cyn endosgopi, cystosgopi, biopsi afu/arennau, biopsi nodau lymff neu biopsi tyllu. Dylid rhoi’r gorau i feddyginiaeth fiolegol hefyd cyn biopsïau sy’n arwain at feinwe gronynnog agored.

Cyfog a methotrexate

  1. Rwy’n teimlo’n sâl ar ôl cymryd fy Methotrexate, beth alla i ei wneud?

Mae teimlo’n sâl (cyfog) yn sgil-effaith gyffredin gyda methotrexate, yn enwedig pan fydd y driniaeth yn dechrau. Mae hyn fel arfer yn gwella, ond i rai pobl efallai y bydd yn parhau.

Efallai y gellir helpu’r teimlad hwn drwy wneud y canlynol:

  • cymryd y methotrexate gyda neu ar ôl bwyd
  • cymryd y methotrexate ychydig cyn i chi fynd i’r gwely; efallai y byddwch yn gallu cysgu drwy’r teimlad o salwch
  • gwneud yn siŵr eich bod yn cymryd eich asid ffolig
  • newid i methotrexate chwistrelladwy.

Weithiau gellir cynyddu nifer y dyddiau rydych chi’n cymryd asid ffolig, ond dim ond ar ôl siarad â meddyg y dylid gwneud hyn.

Adweithiau ar safle’r pigiad

Mae adweithiau safle’r pigiad yn cynnwys cochni, poen, chwydd neu gosi ar safle’r pigiad. Maent fel arfer yn digwydd 1-2 ddiwrnod ar ôl y pigiad ac yn diflannu o fewn 3-5 diwrnod. Maent yn fwyaf cyffredin yn ystod misoedd cyntaf y driniaeth.

Gall rhoi clwtyn gwasgu oer ar y safle helpu. Gall tabledi neu hufenau gwrth-histamin sydd ar gael gan eich fferyllydd helpu hefyd.

Gallwch roi cynnig ar newid lle rydych chi’n rhoi’r pigiad bob tro: gallwch ei chwistrellu i flaen y glun a’r abdomen. Os oes gennych boen, cochni, neu chwydd o amgylch safle’r pigiad nad yw’n mynd i ffwrdd, neu’n gwaethygu, cysylltwch â’r llinell gymorth rhewmatoleg.

Ymholiadau dosbarthu ar gyfer meddyginiaeth fiolegol

1. Mae’r cwmni dosbarthu yn dweud bod fy mhresgripsiwn wedi dod i ben — beth ddylwn i ei wneud?

Ffoniwch y llinell gymorth rhewmatoleg ar 02920 7481891 er mwyn i ni allu gwirio a yw eich presgripsiwn rheolaidd wedi’i drefnu.

2. Nid yw fy nghyffuriau wedi cyrraedd — beth ddylwn i ei wneud?

Ffoniwch y cwmni gofal cartref yn uniongyrchol

Rwy’n mynd ar wyliau - beth ddylwn i ei wneud am fy meddyginiaeth?

Mae angen i chi fynd â’ch meddyginiaeth gyda chi, gan gynnwys unrhyw bigiadau sydd eu hangen arnoch, pan fyddwch chi’n mynd ar wyliau.

Os cewch eich presgripsiwn gan eich meddyg teulu, cysylltwch â nhw mewn da bryd i ofyn am feddyginiaeth ychwanegol ar gyfer pan fyddwch ar wyliau.

Os mai ni sy’n cyflenwi eich meddyginiaeth, cysylltwch â ni am lythyr teithio os ydych yn mynd â phigiadau gyda chi ar awyren.

Cadwch eich meddyginiaeth yn eich bag llaw os ydych chi’n hedfan.

Os ydych chi’n chwistrellu meddyginiaethau, fel rhai biolegol, eich hunain, sicrhewch fod cyfleusterau rheweiddio. Cyn i chi fynd, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o gyflenwadau o’ch meddyginiaeth a biniau ‘offer miniog’ ar gyfer gwaredu chwistrellau a ddefnyddiwyd. Gofynnwch am lythyr gwyliau gan y cwmni dosbarthu neu’r tîm Rhewmatoleg i’w gael gyda chi wrth fynd â meddyginiaeth chwistrelladwy drwy’r tollau.

Beichiogi a Beichiogrwydd

Gall rhai o’r meddyginiaethau a ddefnyddir i drin cyflyrau rhewmatolegol niweidio babi heb ei eni (er enghraifft methotrexate a leflunomide). Rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod i’ch rhewmatolegydd os ydych yn bwriadu beichiogi neu fod yn dad i blentyn.

Efallai y bydd angen newid eich triniaeth cyn i chi roi’r gorau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu.

Os ydych yn feichiog heb gynllunio hynny, a’ch bod yn/wedi rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaeth reolaidd ar gyfer eich arthritis yn ddiweddar, gofynnwch am gyngor gan eich tîm rhewmatoleg cyn gynted â phosibl.

Gweler Beichiogrwydd, ffrwythlondeb ac arthritis | Cyffuriau, bwydo ar y fron ac atchwanegiadau (versusarthritis.org) am ragor o wybodaeth

Monitro gwaed ar gyfer meddyginiaeth

Byddwch yn cael cyngor ynglŷn â pha mor aml mae angen monitro gwaed arnoch wrth ddechrau DMARD (cyffur addasu clefydau). Mae’r tabl isod yn crynhoi’r drefn arferol ar gyfer gwahanol feddyginiaethau. Weithiau mae’r amserlen yn newid yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

Cyffur

Monitro

Ar ôl cynyddu dos

Methotrexate

FBC, LFTs, U&E bob pythefnos am 4-6 wythnos yna’n fisol, yna bob 3 mis ar ôl blwyddyn.

FBC, LFT 2 wythnos ar ôl unrhyw gynnydd dos

Sulfasalazine

FBC, LFT bob pythefnos am 3 mis. Wedi hynny, nid oes angen monitro arferol oni bai bod amheuaeth o wenwyndra.

Ailadroddwch FBC a LFTs 2 wythnos ar ôl cynyddu’r dos

Mycophenolate

FBC yn wythnosol am 4 wythnos, yna bob 2 wythnos am 8 wythnos, yna’n fisol am flwyddyn, yna bob 3 mis.

Leflunomide

Pwysedd gwaed sylfaenol, pwysau.

FBC & LFTs a phwysedd gwaed - bob 4 wythnos am 6 mis ac yna bob 2 fis.

Azathioprine

FBC bob wythnos neu bob pythefnos am y 4-8 wythnos gyntaf (neu tan bythefnos ar ôl y

cynnydd dos terfynol - pa un bynnag sydd gyntaf) ac yna bob 3 mis.

LFTs ar 1 mis, 2 fis, ac yna bob 3 mis.

LFT a FBC 2 wythnos ar ôl unrhyw gynnydd dos

FBC: cyfrif gwaed llawn, LFT: profion gweithrediad yr afu

Sut ydw i’n darganfod canlyniadau fy mhrofion?

Byddwn yn rhoi canlyniadau unrhyw ymchwiliadau i chi yn eich adolygiad nesaf, neu’n gynt os yw’n briodol

Dolenni Defnyddiol

Dyma rai dolenni ac adnoddau defnyddiol i bobl sy’n byw gydag arthritis a chlefydau gwynegol;

Dolenni ar gyfer Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

Adeiladwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Bottom of Form

Dilynwch ni