Ar ôl eich pigiad gofynnir i chi yfed 1 litr o ddŵr plaen (heb flas) cyn y sgan
Cymerwch feddyginiaethau ar bresgripsiwn fel arfer oni chyfarwyddir yn wahanol ar eich llythyr apwyntiad
Osgowch weithgareddau corfforol egnïol am 24 awr cyn amser eich sgan e.e. rhedeg, campfa, beicio
Gwisgwch ddillad llac a chyffyrddus ond gadewch eich gemwaith gartref
Osgowch gaffein am 12 awr cyn y sgan; mae hyn yn cynnwys rhai meddyginiaethau annwyd a meddyginiaethau fel cyffuriau lleddfu poen. Gwiriwch gynhwysion eich meddyginiaethau