Pan fyddwch yn ceisio beichiogi, mae'n bwysig i'r ddau ohonoch fod mor iach â phosibl. Trwy wneud hynny, byddwch yn cynyddu'r siawns o feichiogi'n llwyddiannus â chymorth i'r eithaf.
Adolygodd Canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Effeithiolrwydd Clinigol (NICE) ar ymchwiliadau a thriniaethau ffrwythlondeb yr ymchwil sydd ar gael, a daeth i'r casgliad y gallai dewisiadau ffordd o fyw penodol effeithio ar y tebygolrwydd o lwyddo. Mae llawer o'r argymhellion hyn wedi cael eu cynnwys ym meini prawf triniaeth Comisiwn Iechyd GIG Cymru.
Mae rhai meysydd iechyd penodol y dylech ganolbwyntio arnynt:
- Mae ymchwil wedi dangos bod pobl sy'n ddifrifol dros bwysau neu dan bwysau yn llai tebygol o feichiogi'n llwyddiannus â chymorth. Mae'n rhaid i'ch BMI fod rhwng 19 a 30 ar adeg triniaeth IVF. Dylech siarad â'ch meddyg teulu os ydych yn cael trafferth colli pwysau.
- Mae'r driniaeth yn llai tebygol o lwyddo os yw'r naill bartner neu'r llall yn ysmygu. Gofynnwch i'ch meddyg teulu am gyngor ar roi'r gorau i ysmygu. Mae'n rhaid i'r ddau ohonoch fod wedi rhoi'r gorau i ysmygu ar adeg triniaeth IVF.
- Mae'r tebygolrwydd o lwyddo'n lleihau os yw'r naill bartner neu'r llall yn yfed gormod o alcohol yn rheolaidd.
- Mae hefyd yn bwysig i chi gynnal gwiriadau iechyd rheolaidd, fel hunanarchwilio'r bronnau (menywod) a'r ceilliau (gwrywod).
- Gwnewch yn siŵr fod eich profion ceg y groth yn gyfredol. Os ydych yn cael canlyniad annormal, mae'n bwysig rhoi sylw i hynny yn gyntaf, a dylid oedi triniaeth ffrwythlondeb a beichiogrwydd.
- Dylai'r partner benywaidd sicrhau bod ganddi imiwnedd i Rwbela (y frech Almaenig) gan fod y feirws hwn yn gallu achosi problemau â datblygiad y baban. Mae hyn fel arfer yn cael ei wirio yn y clinig os nad yw'ch meddyg teulu wedi'i wneud. Os nad oes gennych imiwnedd, bydd angen i chi gael brechiad cyn i'r driniaeth ddechrau.
- Mae'n bwysig i'r ddau bartner fwyta deiet iach a chytbwys.
- Dangoswyd bod cymryd atchwanegiadau asid ffolig (menywod) dri mis cyn i chi ddechrau beichiogi ac am 12 wythnos gyntaf y beichiogrwydd yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd y baban yn cael ei eni gyda diffygion y tiwb nerfol, fel spina bifida. Y dos dyddiol a argymhellir yw 400microgram y dydd. Gellir prynu asid ffolig mewn unrhyw fferyllfa neu archfarchnad. Efallai y bydd angen dos uwch os oes hanes o spina bifida yn y teulu neu os oes gennych gyflwr meddygol fel epilepsi lle mae meddyginiaeth benodol yn cynyddu'r siawns y gallai hyn ddigwydd. Mae hyn ar gael ar bresgripsiwn yn unig.
- Gwiriwch am beryglon yn eich gweithle e.e. cemegau, gweithgareddau corfforol a allai gyfrannu at is-ffrwythlondeb mewn rhai achosion.
- Gwnewch ddigon o ymarfer corff a gorffwys.
- Ceisiwch leihau gorbryder trwy:
-
- gael y wybodaeth iawn am ymchwiliadau a thriniaeth
- siarad â'ch gilydd a chefnogi'ch gilydd
- ceisio cwnsela (sydd ar gael ar gais yn y Ganolfan)
- gwneud gweithgareddau y mae'r ddau ohonoch yn eu mwynhau
- cysylltu neu ymuno â grwpiau cymorth cenedlaethol / lleol.