Rydym yn deall bod triniaeth yn gallu achosi llawer o straen a bod yn emosiynol iawn.
Pan fydd triniaeth yn aflwyddiannus, gall cleifion deimlo'n ofidus iawn ynglŷn â'r rhesymau posibl dros y canlyniad aflwyddiannus.
Mae'r tîm yn IVF Cymru ar gael i siarad gyda chleifion am eu triniaeth. Fodd bynnag, yn aml, bydd angen i gleifion gael amser i ddygymod â'u canlyniad aflwyddiannus, a gellir ateb cwestiynau yn yr apwyntiad dilynol a gynhelir gan y tîm meddygol yn yr Uned. Awgrymir aros 6 wythnos cyn cynnal apwyntiad dilynol arferol i sicrhau bod cleifion a'u partneriaid yn cael amser i baratoi i ddychwelyd i'r Uned.
Efallai y bydd modd ystyried cyllid ar gyfer parau sydd eisiau rhoi cynnig ar gylch arall o driniaeth trwy'r GIG. Os byddwch yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd o hyd a'i bod yn dderbyniol yn glinigol i ystyried triniaeth bellach, gallai cais gael ei wneud yn ystod eich trafodaeth â'r tîm meddygol. Os gallwch gael cylch triniaeth arall trwy'r GIG, cewch eich ychwanegu at y rhestr aros berthnasol yn ystod eich apwyntiad. Bydd rhaid aros hyd at 6 mis i gael cynnig cylch triniaeth arall.
Os na allwch gael eich ystyried ar gyfer triniaeth bellach trwy'r GIG, cewch fanteisio ar ein gwasanaeth hunanariannu yn yr Uned.
Mae gwasanaethau cwnselydd annibynnol ar gael i Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru. Mae'n bosibl y byddwch wedi'i weld cyn ac yn ystod eich cylch triniaeth. Os hoffech gael sgwrs gyda'n cwnselydd, gellir trefnu hyn trwy'r timau nyrsio neu weinyddol.
Mae rhagor o wasanaethau annibynnol ar gael yn ein hadran Adnoddau Defnyddiol.