Gweithiwn ochr yn ochr â gwasanaethau meddygol eraill i:
Cynigiwn glinigau asesu ac, os yw'n briodol, therapi un ac un sy'n canolbwyntio ar nodau ac ymyriadau grŵp. Ein nod yw meithrin cysylltiadau â gwasanaethau addas eraill er mwyn sicrhau cymorth parhaus i'r claf.
Mae niwroseicoleg yn ymwneud â'r berthynas rhwng yr ymennydd a gwybyddiaeth (prosesau lefel uwch fel dysgu, cof a deallusrwydd), ymddygiad ac emosiynau. Dyma'r ymyriadau y gallwn eu cynnig gan ddibynnu ar eich anghenion a'r math o wasanaeth rydych yn ei gael.
Asesiad o'ch galluoedd cofio a meddwl yw asesiad niwroseicolegol. Gall helpu i roi dealltwriaeth gliriach o'r rhesymau dros anawsterau unigolyn a gall hysbysu unrhyw gymorth pellach a gynigir i helpu i fynd i'r afael â'r anawsterau a'u rheoli. Mae hefyd yn helpu i hysbysu ymyriadau llawfeddygol neu feddygol. Mae asesiadau niwroseicolegol yn cyfrannu gwybodaeth werthfawr sy'n gallu helpu cydweithwyr meddygol i ddeall symptomau a gyflwynir ac arwain at ddiagnosis cywir.
Rydym yn asesu sut mae pobl yn teimlo a meddwl, er mwyn eu helpu i ddod i delerau â'u cyflwr. Defnyddiwn amrywiaeth o wahanol dechnegau a dulliau therapiwtig, sy'n gallu cynnwys therapïau siarad a gwaith anuniongyrchol drwy dimau staff.
Gweithiwn gyda phobl i gael gwybod eu nodau ac i ddatblygu cynllun gweithredu i'w helpu i symud ymlaen. Gallai hyn gynnwys dysgu strategaethau ymarferol i reoli blinder, anawsterau gwybyddol a phroblemau hwyliau.
Gallwn weithio gyda phobl eraill (staff, gofalwyr) i'w helpu i ddeall ymddygiad cymhleth ac i ddatblygu'r dulliau gorau o helpu'r sawl â'r cyflwr niwrolegol.
Mewn rhai safleoedd gwasanaeth ceir cyfleoedd am waith grŵp sy'n canolbwyntio ar ddysgu technegau hunangymorth a rhannu profiadau.
Efallai y cynigiwn ymyriadau penodol i helpu perthnasau a gofalwyr i addasu i newidiadau yn eu perthynas â'r unigolyn, sy'n gysylltiedig â chyflwr niwrolegol.
Gweithiwn hefyd gyda thimau staff a darparwn hyfforddiant sgiliau seicolegol, gwasanaeth ymgynghori, cymorth gyda materion anodd a dulliau tîm.