Dim ond gan Niwrolawfeddygon Ymgynghorol, Niwrolegwyr, Nyrsys Arbenigol, Meddygon Adsefydlu a Niwroseicolegwyr eraill BIP Caerdydd a'r Fro y derbynnir atgyfeiriadau. Efallai y byddwn yn ystyried atgyfeiriadau gan feddygon teulu os yw un o'r gweithwyr proffesiynol a restrir uchod yn gweithio ar hyn o bryd gyda'r defnyddiwr gwasanaeth.
Gwasanaethau rhanbarthol yw rhai o'r gwasanaethau sy'n gweithio gyda ni ac efallai bydd Niwroseicolegwyr yn gweld pobl sy'n byw yng Nghaerdydd a'r Fro a phobl o fyrddau iechyd eraill ledled Cymru.