Neidio i'r prif gynnwy

MS (Sglerosis Ymledol)

Croeso i dudalennau gwe y Gwasanaeth Niwrolidiol. Isod mae gwybodaeth am y gwasanaeth yn ogystal â gwybodaeth i chi os ydych ar DMT's (Therapïau Addasu Clefydau).  

Gwnawn ein gorau i gadw'r tudalennau hyn yn gyfredol. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol yma ar wefan yr MS Society ac MS Trust.


Mae’r ffordd rydych yn cysylltu â’r Tîm MS wedi newid:

Os oes gennych ymholiad presgripsiwn/MRI, ffoniwch naill ai Lesley ar 029 20748161, Gaynor ar 029 21847104 neu Sophie ar 029 20745735

Os oes gennych ymholiad ynglŷn â derbyniadau i Uned Ddydd neu drwythiadau/triniaethau, cysylltwch â'n Huned Ddydd ar 029 20743280;

Os oes gennych unrhyw ymholiad arall, ffoniwch Ysgrifennydd eich Meddyg Ymgynghorol a fydd naill ai’n gallu eich helpu gyda'ch ymholiad neu siarad ag un o'r Tîm Clinigol:

  • Carole (Dr Tallantyre / Dr Pickersgill) ar 029 20745564
  • Relina (Yr Athro Robertson/ Dr Minton) ar 029 20745403
  • Kate (Dr Willis/ Dr Wynford-Thomas) ar 029 21847624

 


Beth yw MS?

Mae sglerosis ymledol (MS) yn glefyd niwrolegol sy'n effeithio ar ymennydd a llinyn asgwrn cefn oedolion ifanc yn bennaf.

Mewn tua 85-90% o'r holl gleifion MS, mae'r symptomau'n dechrau gyda chyfnod o symptomau niwrolegol a elwir yn syndrom wedi’i ynysu’n glinigol (a dalfyrrir fel CIS). Symptomau cyffredin CIS ac MS yw golwg aneglur (niwritis optig), golwg dwbl, newid teimlad yn y goes, cryfder llai yn y fraich neu'r goes, problemau gyda chydsymud, problemau gyda'r bledren a'r coluddyn, anawsterau cof a blinder.

Gellid gwneud diagnosis o sglerosis ymledol atglafychol ysbeidiol (RRMS) gyda phrofion diagnostig (er enghraifft MRI o'r ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, ac weithiau gyda phigiad yn y meingefn) neu gyda chyfnod newydd o gamweithrediad niwrolegol. Gall y cyfnodau hynny o symptomau niwrolegol wella’n rhannol neu'n gyfan gwbl (felly, fe'i gelwir yn atglafychol ysbeidiol).

Tua 10-20 mlynedd ar ôl diagnosis MS, gall cleifion ddatblygu dirywiad araf mewn gweithrediad niwrolegol. Gelwir y cam hwn o'r clefyd yn sglerosis ymledol eilaidd sy’n gwaethygu (SPMS).

Mewn tua 10-15% o'r holl gleifion ag MS, mae'r afiechyd yn dechrau'n uniongyrchol gyda dirywiad araf mewn gweithrediad niwrolegol, a elwir yn sglerosis ymledol sy'n gwaethygu'n raddol o'r dechrau'n deg heb unrhyw gyfnodau o wella o gwbl (PPMS).

Yn dibynnu ar ffurf a hynt y clefyd, mae opsiynau triniaeth ar gael i gyfyngu ar ddatblygiad clefyd MS. Disease Modified Treatments (DMT) & Blood monitoring for DMT   - Cardiff and Vale University Health Board (nhs.wales)  Yn ogystal, mae nifer o gyffuriau ar gael i drin symptomau MS.

 

 


 


 

Dilynwch ni