Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl eich Rhyddhau O'r Ysbyty

Bag yn ymyl cadair

Mae'r siawns y byddwch chi'n datblygu DVT yn parhau i fod yn uchel yn y pedair wythnos ar ôl eich rhyddhau, yn enwedig os ydych chi wedi cael llawdriniaeth fawr neu salwch mawr.

Efallai y bydd eich meddyg yn teimlo bod y risg hon mor fawr fel bod angen i chi barhau i gael pigiadau heparin gartref. Os oes angen pigiadau pellach arnoch, bydd staff y ward naill ai'n eich dysgu sut i roi pigiad i chi eich hun neu'n trefnu i nyrs ymweld â chi gartref i'w rhoi.

Fe'ch cynghorir i osgoi teithio pellter hir (hirach na thair awr) am bedair wythnos ar ôl llawdriniaeth, oherwydd gall hyn gynyddu eich siawns o ddatblygu DVT.

Mae'r risg o ddatblygu ceulad gwaed yn cynyddu am hyd at dri mis ar ôl i chi fod yn yr ysbyty. Petaech yn datblygu unrhyw un o'r symptomau canlynol ar ôl eich rhyddhau, dylech ofyn am gyngor meddygol ar frys.

  • Poen,
  • Chwydd,
  • Afliwiad yn un o'ch coesau neu
  • Os ydych yn mynd yn fyr eich gwynt neu'n datblygu poen yn y frest

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch DVT a'i atal, yn enwedig os ydych chi'n teimlo bod gennych ffactor risg sydd wedi'i anwybyddu a/neu nad ydych chi'n derbyn mesurau amddiffynnol digonol, soniwch am hyn wrth eich nyrs neu'ch meddyg cyn gynted â phosibl.

Dilynwch ni