Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Anemia Etifeddol

Hereditary Anaemia Service Logo

Sefydlwyd y Gwasanaeth Clefyd y Crymangelloedd a Thalasaemia i ddechrau ym 1990 i ddarparu gwasanaeth sgrinio, cwnsela a chymorth i bobl a theuluoedd sydd mewn perygl o gario nodwedd hemoglobinopathi neu sydd ag anhwylder hemoglobinopathi.

Mae'r Gwasanaeth wedi datblygu ac esblygu ers hynny ac yn ddiweddar fe'i comisiynwyd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a'i ailenwi'n 'Y Gwasanaeth Anemia Etifeddol' sydd bellach yn cwmpasu De a Chanolbarth Cymru.

Darperir y Gwasanaeth o Ysbyty Athrofaol Cymru a Chanolfan Iechyd Butetown yng Nghaerdydd a'i nod yw darparu gwasanaeth holistaidd, deinamig ac integredig sy'n rhoi pobl sydd â chlefyd y crymangelloedd, thalasaemia neu anemia etifeddol prin arall, neu sydd mewn perygl o’u cael, yng nghanol gofal, gan gydnabod a mynd i'r afael ag anghenion cymhleth unigolion a theuluoedd y mae'r cyflyrau hyn yn effeithio arnynt.

Mae'r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth agos â'r Tîm Cwnsela Genetig (ar y cyd â Geneteg Feddygol), y Labordy Hemoglobinopathi, Ward Hematoleg B4 (Oedolion), Ysbyty Athrofaol Cymru a Ward Enfys/Roced (Plant) yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd.

 

Mae Tîm Amlddisgyblaethol y Gwasanaeth Anemia Etifeddol yn cynnwys:

  • Ymgynghorwyr Hematoleg Arbenigol Oedolion a Phediatrig
  • Nyrsys Arbenigol Oedolion a Phediatrig ar gyfer Pediatreg ac Oedolion
  • Arbenigwr Chwarae a Gweithiwr Ieuenctid
  • Cwnselwyr Genetig
  • Tîm y Labordai Hemoglobinopathi
  • Data/cydlynydd Anemia Etifeddol

Gobeithiwn gael Gweithiwr Cymdeithasol a Seicolegydd fel rhan o'n Tîm yn y dyfodol.

 

Manylion Cyswllt

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Cwnselwyr Genetig

Ffôn: 02920 742577

E-bost: Se.Genetics@wales.nhs.uk

 

Tîm Oedolion

Dr Jonathan Kell (Ymgynghorydd Hematoleg)

Annette Blackmore (Nyrs Arbenigol): 07976 875729

Elle Symons (Nyrs Arbenigol): 07855 162561

Llinell brysbennu ar gyfer y gwasanaeth i oedolion: 02921 842882

Beth i'w wneud os oes angen Gofal Brys arnoch: Cysylltwch â'r llinell brysbennu ar 02921 842882 neu ewch i'r Uned Achosion Brys agosaf.

 

Tîm Pediatrig

Dr Indu Thakur a Dr P Connor (Ymgynghorwyr Hematoleg Pediatrig)

Ysgrifenyddion Meddygol: 02921 842107 neu 02921 844829

childhealth.oncologyandhaem.cav@wales.nhs.uk

Helen Murphy (Nyrs Arbenigol) : 07815 012093

Suzanne Playford (Nyrs Arbenigol): 07815 012088

Llinell brysbennu ar gyfer plant: 02921 848804

Trefnu Apwyntiadau (Roced): 02921 848805

Beth i'w wneud os oes angen Gofal Brys arnoch: cysylltwch â'r llinell brysbennu ar 02921 848804 am gyngor.  Os yw eich plentyn yn ddifrifol sâl ac na allwch fynd drwodd i'r llinell brysbennu neu nyrs arbenigol– ffoniwch 999.

 

Atgyfeiriadau

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud atgyfeiriadau, gan gynnwys meddygon teulu drwy'r broses atgyfeirio electronig neu drwy'r e-bost generig (Pediatrig). Cysylltwch â'r nyrsys arbenigol os oes angen cyngor atgyfeirio arnoch. Gellir gwneud hunanatgyfeiriadau i'r gwasanaeth cwnsela genetig drwy gysylltu â Se.Genetics@wales.nhs.uk dros e-bost.

 

Dilynwch ni