Neidio i'r prif gynnwy

Adran Imiwnoleg YAC - Hafan

Mae’r Adran Imiwnoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn darparu gwasanaeth eang ar gyfer ymchwilio, rhoi diagnosis a thrin cyflyrau sy’n deillio o gamweithrediad y system imiwnedd. Mae integreiddio gwasanaethau labordy a chlinigol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth profi arloesol yn y labordy, sy’n hanfodol wrth roi diagnosis ar gyfer clefydau imiwnyddol cymhleth, a’u monitro.


Gwasanaethau Clinigol

Yn glinigol, mae dau brif faes yr ydym yn arbenigo ynddynt: Alergedd a diffyg imiwnedd sylfaenol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y meysydd hyn ar y dudalen Gwasanaethau Imiwnoleg.

Os oes gennych apwyntiad gyda ni, gallwch gael gwybodaeth am bryd a ble rydym yn cynnal ein clinigau ar y dudalen Clinigau Imiwnoleg.

Os hoffech gysylltu â ni am eich apwyntiad, fe welwch ein manylion ar y dudalen Cysylltu â Ni.


Gwasanaethau Labordy

Mae’r Labordy Imiwnoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn cynnal dros 250,000 o brofion y flwyddyn i alluogi clinigwyr i roi diagnosis a monitro ystod eang o gyflyrau imiwnoleg yn cynnwys alergeddau, diffyg imiwnedd ac awtoimiwnedd. Rydym hefyd yn cynnig ystod gynhwysfawr o brofion ategol. Ceir gwybodaeth bellach ar Wefan y Labordy Imiwnoleg.

Dilynwch ni