Os ydych o dan 18 oed ac angen dulliau atal cenhedlu, profi/triniaeth STI neu gyngor iechyd rhywiol, galwch heibio i un o'n clinigau:
Fel arall, gallwch ein ffonio ar 02921 835208 i drefnu apwyntiad os na allwch ddod i'r clinig galw heibio. Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.
Newyddion - Clinig y Barri
Yn dechrau ar 10fed Medi, rydym yn symud ein clinig Barri o Glinig Heol Llydan i Ysbyty Barri. Gweler isod yr newidiadau:
PRYD? 2 yp - 5 yp bob Ddydd Mercher
BLE? Ysbyty Barri, Ffordd Colcot, y Barri. CF62 8YH - Dewch i mewn trwy'r prif fynedfa a throi i'r chwith. Mae ein desg derbynfa wedi'i arwyddi fel "Derbynfa a Chwestiynau", a byddwch yn ei gweld ar y dde o Ganolfan y Ymwelwyr.
DECHRAU? 10fed Medi 2025
Fel gwasanaeth rydym yn deall pwysigrwydd cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i bawb, waeth beth fo'u hoedran, sy'n mynychu ein Clinigau Iechyd Rhywiol. Nid oes angen caniatâd oedolyn arnoch i fynychu un o'n clinigau. Byddwn yn gofyn i chi am eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhif ffôn, a fydd yn cael ei drosglwyddo i'ch cofnod iechyd rhywiol unigryw. Nid yw eich cofnod iechyd rhywiol yn gysylltiedig ag unrhyw gofnod iechyd arall ac ni fydd eich meddyg teulu yn cael gwybod am eich presenoldeb.
Os ydych rhwng 13 a 17 oed, mae gennych yr un hawliau i gyfrinachedd ag oedolyn. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn pasio unrhyw ran o'r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni fel mater o drefn (gan gynnwys rhieni, athrawon neu feddyg teulu) heb eich caniatâd. Weithiau gall fod yn ddefnyddiol rhannu'r wybodaeth hon gyda'ch meddyg teulu neu rieni felly efallai y byddwn yn eich annog i wneud hynny.
Fodd bynnag, efallai y bydd rhai sefyllfaoedd lle rydym yn teimlo bod angen i ni drosglwyddo'r wybodaeth a ddywedwch wrthym i weithiwr proffesiynol arall. Byddai hyn ond yn digwydd pe bai gennym bryderon difrifol am eich diogelwch neu'ch lles. Mewn amgylchiadau arferol, byddem yn ceisio trafod hyn gyda chi cyn trosglwyddo hyn.
Os hoffech drafod sut mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw a'i rhannu yn ein clinig, soniwch am hyn i'r person sy'n eich gweld.