Ddim yn siŵr beth yw stigma HIV? Mae gan Aidsmap esboniad ysgrifenedig syml: https://www.aidsmap.com/about-hiv/what-hiv-stigma
Mae gwybod y ffeithiau am HIV a throsglwyddo’r ffeithiau hynny yn ffordd allweddol o frwydro yn erbyn stigma. Mae gan Lwybr Carlam Cymru daflen syml, sylfaenol am HIV yn yr 21ain ganrif yn Gymraeg a Saesneg y gellir ei harchebu mewn swmp neu ei lawrlwytho a'i hargraffu (bydd angen argraffydd lliw arnoch) o'u gwefan yn https://fasttrack.wales/fast-track-cymru-campaign-resources/
Adnoddau Addysg RSE HIV: Mae Llwybr Carlam Cymru wedi lansio set o adnoddau addysg HIV trawsgwricwlaidd, wedi'u cynllunio i gefnogi'r broses o ddarparu Addysg Cydberthnasau a Rhywioldeb (RSE) yng Nghymru. Edrychwch ar yr adnoddau RSE yma.
Eisiau cyngor ymarferol am sefyllfaoedd bywyd go iawn? Mae gan Viiv Healthcare, sy'n gwneud triniaethau HIV, adnoddau am fynd i'r afael â stigma ar eu gwefan yn yr Unol Daleithiau. Mae'r rhain wedi'u hanelu at gynulleidfa yn yr Unol Daleithiau ond maen nhw'n werth edrych arnyn nhw. Rydym yn argymell yn arbennig y wybodaeth am sut i fynd i'r afael â stigma a hunan-stigma sy'n defnyddio sefyllfaoedd bywyd go iawn fel enghreifftiau ac yn rhoi cyngor adeiladol ar sut i fynd i'r afael â nhw. https://viivhealthcare.com/content/dam/cf-viiv/viivhealthcare/en_US/files/en-us-ending-hiva-gainst-stigma-learn-about-hiv-be-a-positive-force.pdf
Eisiau syniadau mwy effeithiol sy'n gweithio ar sut i drechu stigma? Dechreuwch gyda'r crynodeb ar dudalen 29 o 'Tackling HIV Stigma' (NAT, 2016) ac yna darllenwch y dystiolaeth fanwl ar gyfer pa bynnag strategaethau sy'n addas i chi/eich sefydliad. Mae'r adroddiad yn archwiliad cynhwysfawr o'r hyn a wyddys am stigma HIV a'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio i'w herio ar y pryd, gyda llawer o enghreifftiau. Gweler:https://www.nat.org.uk/sites/default/files/publications/Jun_16_Tackling_HIV_Stigma.pdf
Os ydych chi'n athro, mae gan NAT dudalen o adnoddau addysgu am HIV hefyd sy'n cynnwys cynllun gwers ar stigma HIV a sut i fynd i'r afael ag ef: https://www.nat.org.uk/teachers-resources
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn byw gyda HIV yna mae gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins lawer o adnoddau ar gyfer byw'n dda gyda HIV ar eu gwefan. Os oes gennych chi HIV ac yn profi stigma, neu'n poeni llawer amdano, mae’r Fforwm Cymunedol, sy’n benodol i bobl sy’n byw gyda HIV yn lle da i chi siarad (yn ddienw os ydych chi eisiau) â phobl eraill sydd â HIV, am hynny neu am unrhyw beth arall yn eich bywyd. Bydd yn eich helpu i gysylltu â lleisiau eraill a fydd yn deall o ble rydych chi'n dod oherwydd eu bod nhw wedi bod yno hefyd. Gweler: https://www.tht.org.uk/our-services/living-well-hiv/my-community-forum
Mae yna hefyd Linell Gymorth THT i gynghreiriaid ffonio a siarad am y ffordd orau o ddelio â sefyllfa anodd ar 0808 802 1221. Ac os ydych chi neu ffrind yn profi stigma HIV yn y gweithle ac mae'n gwneud eich swydd yn anodd, gallwch ddarganfod eich hawliau a'r amddiffyniad sydd ar gael yma: https://www.tht.org.uk/hiv-and-sexual-health/living-well-hiv/your-rights/equality-act-and-workplace