Os hoffech gael prawf STI (gan gynnwys profi am HIV) i gael tawelwch meddwl, cliciwch yma i archebu pecyn prawf cartref am ddim. Dylech dderbyn eich pecyn prawf o fewn 3-5 diwrnod gwaith.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael pecyn prawf am ddim ar gyfer clamydia a gonorea. Gallwch hefyd gael pecyn am ddim a fydd yn profi am HIV, Siffilis, Hepatitis B, a Hepatitis C. Gallwch ddefnyddio’r pecynnau hyn yn eich cartref eich hun ac yna eu postio i’r labordy yn yr amlen ragdaledig. Anfonwch bopeth yn ôl gyda’r samplau i’r labordy — gan gynnwys y ffurflen gais, gan na ellir profi eich samplau hebddi.
Nid yw deunydd pacio y prawf yn amlwg. Nid oes gan y deunydd pacio unrhyw logos na gwybodaeth adnabod. Mae gennym rai fideos ar-lein sy’n dangos i chi sut maen nhw’n edrych: https://www.youtube.com/channel/UCZzx0Y6fLCIUNzOLYB4xJPA.
Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau isod, cysylltwch â’n clinig ar 02921 835208 rhwng 9.00am a 3:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc).
Os oes partner yn dweud wrthych ei fod wedi cael diagnosis o haint a drosglwyddir yn rhywiol, mae’n bwysig eich bod yn cael prawf a thriniaeth os oes angen. Ffoniwch ni ar 02921 835208, rhwng 9.00am a 3:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc). Bydd clinigydd yn eich ffonio’n ôl i drefnu prawf a thriniaeth os yw’n briodol.