Rydym yn cynnig gwasanaeth iechyd rhywiol integredig, hygyrch a chyfrinachol. Nid oes angen i chi weld eich meddyg cyn mynychu clinig iechyd rhywiol.
Rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
Os ydych chi eisiau sgrin STI, ond heb unrhyw symptomau, dilynwch y ddolen hon i Brawf a Gwasanaeth Post Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gallwch wneud cais i anfon pecyn post i'ch cyfeiriad cartref. Os byddwch chi'n profi'n bositif, byddwch chi'n derbyn neges destun a byddwn ni'n cysylltu â chi i drefnu triniaeth.
Os ydych o dan 18 oed ac angen dulliau atal cenhedlu, profion/triniaeth STI neu gyngor iechyd rhywiol, galwch heibio i un o’n clinigau:
Fel arall, gallwch ein ffonio ar 02921 835208 i drefnu apwyntiad os na allwch ddod i’r sesiynau galw heibio
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i'n holl gleifion gan gynnwys plant dan 16 oed. Ni all unrhyw unigolyn neu sefydliad y tu allan i'r Adran Iechyd Rhywiol gyrchu unrhyw wybodaeth bersonol.
Yr unig reswm y gallai fod yn rhaid i ni ystyried trosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol heb eich caniatâd fyddai eich amddiffyn chi neu rywun arall rhag niwed difrifol. Byddem bob amser yn ceisio trafod hyn gyda chi yn gyntaf.
Rydym weithiau'n awgrymu ein bod yn rhoi gwybod i'ch meddyg teulu am driniaeth neu gyflyrau parhaus. Dim ond gyda chaniatâd yr unigolyn dan sylw y byddwn yn gohebu â meddygon teulu neu adrannau ysbytai eraill ynghylch materion sy'n berthnasol i ofal parhaus.