Mae bod yn filwr wrth gefn yn ffordd wych o ddatblygu eich gyrfa yn y maes iechyd a chael sgiliau newydd.
Erbyn 2018, mae'r Llywodraeth yn gobeithio cynyddu nifer y milwyr wrth gefn ar draws y fyddin, y llynges a'r awyrlu 50% i 30,000.
Daw dros 5,000 o'r milwyr wrth gefn hyn o amrywiaeth helaeth o wasanaethau, fel arlwyo, logisteg, nyrsys, meddygon a ffisiotherapyddion.
Beth yw milwr wrth gefn?
Mae tair gwefan lluoedd arfog lle cewch wybod rhagor am fod yn filwr wrth gefn.
Yn un o gefnogwyr y Lluoedd Arfog ac yn gyflogwr nifer o Filwyr Wrth Gefn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCAF) yw un o lofnodwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Addewid gwirfoddol yw Cyfamod y Lluoedd Arfog gan sefydliadau a busnesau'r wlad sydd am arddangos eu cefnogaeth gadarn i gymuned y Lluoedd Arfog.
Mae'n cynnwys datganiad craidd o ymrwymiad na ddylai'r un aelod o gymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais yn narpariaeth gwasanaethau cyhoeddus neu fasnachol o'i gymharu ag unrhyw ddinesydd arall ac, mewn rhai amgylchiadau, y gallai triniaeth arbennig fod yn briodol.
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos eich cefnogaeth a #SaliwtioEinLluoedd am bopeth a wnânt.
Mae cymdeithasau RFCA yn ganolbwynt gweithgarwch a gweinyddu ar gyfer Milwyr Wrth Gefn a Chadetiaid y Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.
Cynigiant gyngor a chymorth i'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r tri gwasanaeth i gyd mewn ffyrdd amrywiol, gan gynnwys: cynnal a chadw bron i 200 o leoliadau uned, cymorth recriwtio, ymgysylltu â'r gymuned, hybu ymwybyddiaeth a mwy.
Maent yn sefydliad di-elw ac nid ydynt yn rhan o'r gadwyn awdurdod filwrol.
Mae milwyr wrth gefn yn cyfrif am ryw 16% o bersonél y Lluoedd Arfog ac maent yn rhan annatod o warchod diogelwch y genedl gartref a thramor.
Yn aml, ni chydnabyddir eu cyfraniad at y Lluoedd Arfog. Felly, crëwyd Diwrnod blynyddol y Milwyr Wrth Gefn i amlygu a chydnabod y cyfraniad gwerthfawr a geir gan Filwyr Wrth Gefn.
Yn 2020, dathlir Diwrnod y Milwyr Wrth Gefn ar ddydd Mercher 24 Mehefin. Bydd milwyr wrth gefn yn gwisgo eu lifrai yn eu bywyd sifilaidd i hybu ymwybyddiaeth ac mae nifer o ffyrdd y gall sefydliadau ddangos eu cefnogaeth hefyd.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro lawer o Filwyr Wrth Gefn fel Paddy Keogh.
Mae Paddy yn Weinyddwr Systemau TG yn yr Uned Famolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a'i brif rôl yw gofalu am y systemau TG ar gyfer mamolaeth. Yn ei swydd arferol, mae'n gweithio ar brosiect yn gosod system gyfrifiadurol yn lle'r nodiadau papur a ddefnyddir ar hyn o bryd.
Fel Milwr Wrth Gefn, mae Paddy yn Swyddog Gwarant a Chadlywydd Mintai ar gyfer Uned y Signalwyr Brenhinol, Sgwadron Signalwyr 53 (Cymru a'r Gorllewin), yr unig Sgwadron o Signalwyr Cymru yn y DU. Mae wedi gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon a Bosnia, a'r teithiau'n para 12 mis yr un.
Dywedodd Paddy: “Prif rôl Sgwadron Signalwyr 53 yw darparu'r systemau gwybodaeth a chyfathrebu diweddaraf un i'r Lluoedd Arfog, y Gwasanaethau Brys ac Adrannau Llywodraeth eraill.
“Rydym wedi rhoi help llaw yn y Gemau Olympaidd, yn ystod uwchgynhadledd NATO, pan fu tywydd garw fel llifogydd, ac unrhyw bryd y ceir argyfwng cenedlaethol bydd yr uned yn camu i'r adwy i ddarparu systemau cyfathrebu.
“Rwyf wrth fy modd yn Filwr Wrth Gefn. Mae'r Fyddin yn helpu i dalu am gymwysterau sy'n rhoi gwybodaeth yn y maes ichi ac yn rhoi profiad ichi ei gyfrannu at eich swydd arferol. Rwyf yn y Fyddin ers oeddwn i'n 16 oed felly rwyf wedi gwasanaethu 31 o flynyddoedd i gyd.
“Mae yna gymaint o adegau cofiadwy, yn rhai hapus a thrist.
“Bu'n anhygoel bod yn rhan o'r teithiau, mae'r ysbryd cyd-dynnu a'r cyfeillgarwch heb eu hail, ond ynghyd â'r amseroedd da daw amseroedd trist. Fe gollais ffrind agos yn Affganistan pan gafodd ei saethu; ni anghofiaf hynny byth ac mae'n fy atgoffa o realaeth bod yn rhan o'r Fyddin.”