Sefydlwyd Gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru i wella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru.
Caiff y gwasanaeth ei weithredu o ddydd i ddydd gan Global Link ym Mae Caerdydd.
Mae pob un o Fyrddau Iechyd Lleol eraill Cymru (Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Cwm Taf, Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys) wedi penodi clinigydd profiadol yn Therapydd Cyn-filwyr gyda diddordeb mewn problemau iechyd milwrol neu brofiad ohonynt.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyn-filwyr GIG Cymru.
Ffôn: 029 2183 2261 (Llun-Gwe 9am - 5pm)
Ysgrifennydd: Amy O'Sullivan
Mae gwefan Veterans’ Gateway yn darparu un pwynt cyswllt i gyn-filwyr sy'n chwilio am gyngor a chymorth.
Gwybodaeth am wasanaethau cymorth yn yr ardal leol i gyn-filwyr.
Anelir yr astudiaeth hon at gyn-filwyr â PTSD sy'n gwrthsefyll triniaeth, a bydd cyfranogwyr yn cael eu recriwtio i'r astudiaeth drwy atgyfeiriadau Cyn-filwyr GIG Cymru ym mhob ardal bwrdd iechyd.
Mae The Poppy Factory yn cefnogi Cyn-filwyr â chyflyrau iechyd a namau ym mhob agwedd ar ddychwelyd i'r gwaith.