Mae'r adran Therapi Lleferydd ac Iaith mewn iechyd meddwl yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau arbenigol i ddefnyddwyr gwasanaeth, yn enwedig y rheini gyda namau ar leferydd, iaith, cyfathrebu ac anawsterau bwyta / llyncu.
Efallai bod yr anawsterau hyn yn gynhenid i'r broblem iechyd meddwl, fel yn sgitsoffrenia, efallai eu bod yn rhagflaenu'r broblem iechyd meddwl, fel mewn diffyg rhuglder, neu'n codi ohoni, fel problemau lleferydd echddygol / problemau llyncu a achoswyd gan gyffuriau neu broblemau ymddygiadol emosiynol.
Mae anhawster gyda chyfathrebu cymdeithasol yn brif nodwedd ar iechyd meddwl a gall effeithio ar hunan-barch, hunaniaeth, perthnasoedd a chyfranogiad cymdeithasol. Mae'n effeithio'n fawr ar ansawdd bywyd.
Gall Therapyddion Lleferydd ac Iaith gynorthwyo drwy hwyluso adferiad, neu leihau effaith y nam cyfathrebu, naill ai drwy ddarparu ymyriadau uniongyrchol neu weithio'n anuniongyrchol drwy gymorth gofalwyr.
Mae gan Therapyddion Lleferydd ac Iaith rôl unigryw mewn adnabod a dadansoddi natur namau cyfathrebu a llyncu drwy gyfrannu at asesiad, diagnosis a rheolaeth, a chefnogi proses benderfynu'r tîm ynghylch, er enghraifft, bwyta mewn perygl a materion sy'n gysylltiedig â chapasiti.
Hefyd, mae gan Therapyddion Lleferydd ac Iaith rôl allweddol yn hyfforddi eraill i wella effeithiolrwydd cyfathrebu neu ddiogelwch bwydo a llyncu.
Mae gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith BIP Caerdydd a'r Fro yn ceisio darparu gwasanaeth ar draws y canlynol:
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wasanaeth pwrpasol yn cael ei ddarparu ar gyfer Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol sy'n Oedolion. Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau cychwynnol gyda'r Therapydd Lleferydd ac Iaith Arweiniol sydd yn y Gwasanaeth Niwroseiciatreg, ceir cyfeirio atgyfeiriadau drwy wasanaethau cleifion allanol Therapi Lleferydd ac Iaith fel sy'n briodol.