Mae Gwasanaeth Diogel Isel BIP Caerdydd a'r Fro yn wasanaeth arbenigol a phwrpasol i bobl sy'n dioddef o anhwylder meddwl difrifol. Mae'r Gwasanaeth Diogel Isel yn cynnwys gwasanaeth cleifion mewnol a Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol Fforensig.
Cynlluniwyd y gwasanaeth hwn yn benodol i fodloni anghenion defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi cyflawni trosedd ddifrifol neu sy'n cyflwyno risg niwed i eraill.
Derbyniwn ddefnyddwyr gwasanaeth o ysbytai diogel canolig, ysbytai seiciatrig lleol, carchardai a'r llysoedd.
Mae gan ein Tîm Diogel Isel ethos o wellhad a grymuso. Mae ein defnyddwyr gwasanaeth wedi creu'r gwaith celf hwn i ddisgrifio eu profiad o fod mewn gwasanaethau diogel.
Defnyddiodd y defnyddwyr gwasanaeth dan sylw'r cyfle hwn i weithio fel tîm, cyfathrebu'n gadarnhaol a rhannu neges o lais cyfartal a gwellhad.
Daw atgyfeiriadau i Wasanaethau Diogel Isel gan seiciatryddion mewn Iechyd Meddwl, Gwasanaeth Erlyniad Troseddol, y carchar a gwasanaethau prawf.
I gael gwybod yn fanylach sut mae cael at ein gwasanaethau, trowch at ein tudalen gwybodaeth atgyfeirio.