Ar hyn o bryd, mae gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl dair ward ardal:
Mae'r wardiau hyn yn darparu amgylchedd diogel, cefnogol ar gyfer asesu angen unigol, a chynllunio a chyflenwi triniaeth i hwyluso gwellhad a rhyddhau cleifion yn llwyddiannus i'r gymuned. Mae'r gofal yn canolbwyntio ar gyflawni perthynas therapiwtig.
Mae'r wardiau ardal yn gweithio tuag at weithredu'r model Wardiau Diogel i sicrhau amgylchedd digyffro i bawb.
Pan dderbynnir unigolion i safle cleifion mewnol, cânt eu dyrannu i ward ar sail ardal eu meddyg teulu. Mae hyn yn ein helpu i'w hadleoli yn ôl i'r gymuned mor gyflym a diogel â phosibl.
Yn anffodus, ar rai adegau caiff cleifion eu derbyn i wardiau lle mae gwely ar gael, ond efallai nad honno yw'r ward sy'n ymdrin ag ardal eu meddyg teulu.
Mae'r wardiau'n darparu gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Cânt eu staffio gan dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnig cymorth, gofal a thriniaeth i unigolion nad oes modd eu trin yn ddiogel ac effeithiol gartref.
Lle bo'n briodol a lle bynnag y bo modd, wrth reoli gofal cleifion mewnol anelir at feithrin a chynnal cysylltiadau â chymorth cymdeithasol presennol a'r safle cymunedol.
Caiff unigolion eu trin ag urddas a pharch bob amser, a'u hannog i gyfranogi yn eu triniaeth. Byddant yn cael cymaint o gyfrifoldeb ac annibyniaeth ag sy'n bosibl.
Anela'r gwasanaeth at ddarparu sensitifrwydd diwylliannol a bydd credoau crefyddol, diwylliannol ac ysbrydol yr unigolyn, ei deulu a'i ofalwyr yn cael eu hystyried wrth gynllunio gofal.
Gwneir pob ymdrech i barchu hunanbenderfyniad unigolyn mewn perthynas â chred, rhywedd, rhywioldeb a dewisiadau ffordd o fyw. Hyrwyddir lles meddwl drwy addysg, gwybodaeth a chyngor iechyd.
Yn ogystal mae Gweithredu Caerdydd a'r Fro dros Iechyd Meddwl yn bartner allweddol i'n gwasanaeth a chydweithiwn â hwy i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bob defnyddiwr gwasanaeth.