Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Electrogynhyrfol

Mae Therapi Electrogynhyrfol (ECT) yn driniaeth ddiogel ac effeithiol. Mae'r tîm ECT yn darparu'r driniaeth hon i ddefnyddwyr gwasanaeth, a hynny fel arfer ar gyfer iselder difrifol, mewn safle clinigol modern.

Mae'r tîm amlddisgyblaethol ECT cyfeillgar yn cynnwys:

  • Athro Seiciatreg arweiniol
  • Seiciatrydd Ymgynghorol
  • Rheolwr Clinig
  • tîm o Nyrsys Cofrestredig
  • tîm o Anesthetyddion Ymgynghorol ac Ymarferwyr Anaesthetig.

Gweithia'r tîm o Hafan y Coed, Ysbyty Llandochau. Gellir cysylltu â nhw ar 029 2182 4756 / 4757 rhwng 7.30am a 4.00pm ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener. Derbyniant atgyfeiriadau gan dimau sy'n trin.

Achredir y tîm gan Wasanaeth Achredu ECT Coleg Brenhinol y Seiciatryddion sy'n gosod safonau ar gyfer pob agwedd ar ofal ECT yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon. Mae'r broses ar gyfer achredu yn un drwyadl.

Dilynwch ni