Mae'r Labordai Haematoleg a Thrallwysiad Gwaed wedi'u hachredu gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS) i asesu cydymffurfiad â Safon Ryngwladol gydnabyddedig ISO 15189: 2012.
Ers cyflawni'r achrediad, mae'r adran wedi uwchraddio ei dadansoddwyr Cyfradd Gwaddodiad Erythrosyt (ESR). Er mwyn sicrhau ein defnyddwyr gwasanaeth o gydymffurfiad parhaus ag ISO 151589: 2012, bydd dilysiad a methodoleg y dadansoddwr yn cael ei ailasesu.
Ers cyflawni'r achrediad, mae'r adran hefyd wedi uwchraddio ei dadansoddwyr Hematinig. Er mwyn sicrhau ein defnyddwyr gwasanaeth o gydymffurfiad parhaus ag ISO 151589: 2012, bydd dilysiad a methodoleg y dadansoddwr yn cael ei ailasesu.
Er bod statws achredu ac ansawdd dangosadwy'r labordy yn aros yr un fath, nes bod yr ailasesiad wedi'i gwblhau'n llwyddiannus, ni fydd profion ESR ac unrhyw brofion Hemanitig (B12, Folate, Ferritin, Erythropoietin a ffactorau Intrinsig) yn cael eu hystyried yn brawf achrededig. Mae'r ailasesiad wedi'i drefnu fel rhan o'r ymweliad gwyliadwriaeth cyntaf ym mis Ebrill 2018.