Mae prawf gwaed wedi dangos eich bod yn cludo haemoglobin E. Dyma esboniad byr:
- Mae cludwr haemoglobin E yn berson iach.
- Ni fydd cario haemoglobin E yn eich gwanhau yn gorfforol nac yn feddyliol.
- Gallwch chi fwyta'r hyn rydych chi ei eisiau a gwneud unrhyw fath o waith rydych chi'n ei ddewis.
- Nid oes angen unrhyw driniaeth feddygol arnoch oherwydd eich bod yn ei gludo.