Gwasanaeth iechyd meddwl trydyddol arbenigol i unigolion sydd wedi dioddef o anaf ymennydd caffaeledig difrifol yw Gwasanaeth Niwroseiciatreg Cymru. Mae'n darparu adnodd cynhwysfawr ar gyfer asesu, ymchwilio, rheoli ac adsefydlu i gleifion sy'n dioddef o broblemau niwroseiciatrig, gwybyddol, emosiynol ac ymddygiadol o ganlyniad i'r anaf hwnnw.
Mae'r gwasanaeth yn gweithio o Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae ganddo Uned Cleifion Mewnol o 10 gwely ar Ash Ward ac mae'n gweithredu Gwasanaeth Cymunedol, Dydd a Chleifion Allanol o Wasanaethau Dydd Ash Ward. Mae gan y Ward Cleifion Mewnol newydd amgylchedd therapiwtig, modern sy'n canolbwyntio ar wellhad, ac yno ystafelloedd en-suite niwroadsefydlu helaeth.
Mae'r cleifion y mae angen ein gwasanaeth arnynt yn cyflwyno ystod o broblemau corfforol, gwybyddol, emosiynol a/neu ymddygiadol, ac anelwn at sicrhau'r gwellhad corfforol, gwybyddol, cyfathrebu a galwedigaethol gorau posibl.
Mae'r gwasanaeth yn cymryd atgyfeiriadau o bob cwr o Gymru gan Feddygon Teulu, Niwrolegwyr, Ymgynghorwyr Adsefydlu, Timau Iechyd Meddwl, Gweithwyr Cymdeithasol a Mudiadau Gwirfoddol.
Derbyniwn atgyfeiriadau ar gyfer oedolion dros 18 oed ag anaf ymennydd caffaeledig o ganlyniad i drawma neu ddigwyddiad / afiechyd niwrolegol, heblaw strôc ac anhwylderau dirywiol am fod gwasanaethau eraill ar gael ar eu cyfer nhw. Ystyrir atgyfeiriadau i'r rheini sy'n nesáu at eu 18 oed fesul achos.
I atgyfeirio i'r gwasanaeth, cysylltwch â: