Mae'r Tîm Ffisiotherapi i Gleifion Allanol ag Anhwylder Niwrolegol yn gweithio gyda phob defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi cael diagnosis o anhwylder niwrolegol sy'n byw yn nalgylch Caerdydd a'r Fro, neu ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n gweithio i BIP Caerdydd a'r Fro.
Oedolion yw'r cleifion a welwn (18 oed a throsodd).
Derbyniwn atgyfeiriadau gan unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd a gall cleifion presennol eu hail-atgyfeirio eu hunain.