Tîm amlddisgyblaethol sy'n darparu cyfraniad strôc arbenigol i gleifion yn y gymuned yw'r Gwasanaeth Rhyddhau Cynnar gyda Chymorth (ESD). Nod y gwasanaeth yw cefnogi rhyddhad cynnar o safle'r ysbyty. Gwasanaeth 6 wythnos ydyw a gall y tîm atgyfeirio ymlaen os oes angen gwasanaeth pellach.
Cawn atgyfeiriadau o Ward A6 yn Ysbyty Athrofaol Cymru a'r Ganolfan Adsefydlu wedi Strôc yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Derbyniwn atgyfeiriadau hefyd ar gyfer cleifion strôc a dderbyniwyd i wardiau eraill yn y BIP os ydynt yn bodloni'r meini prawf Rhyddhau Cynnar gyda Chymorth ac os oes ganddynt nodau adsefydlu parhaus.
I gael at y gwasanaeth hwn, rhaid bod cleifion yn bodloni'r meini prawf canlynol:
Ni dderbyniwn gleifion sy'n byw mewn Cartrefi Preswyl neu Nyrsio.
Cawn atgyfeiriadau hefyd o safleoedd cleifion mewnol drwy eu Tîm Amlddisgyblaethol.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.