“Yn cefnogi pobl i fyw bywyd yn dda: eich ffordd chi.”
Mae gan BIP Caerdydd a'r Fro amrywiaeth o wasanaethau niwroadsefydlu cymunedol sydd ar gael i bobl ag anhwylderau niwrolegol dirywiol neu gaffaeledig sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Yr athroniaeth ym mhob tîm yw cydweithio â chleifion, eu teuluoedd a/neu ofalwyr, gan annog cymorth hunanreoli, sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl a galluogi unigolion i ailddysgu sgiliau a bod mor annibynnol ag sy'n bosibl yn y gymuned.