Neidio i'r prif gynnwy

Parentline

Mae Parentline yn wasanaeth neges destun sy'n caniatáu i rieni a gofalwyr plant rhwng 5 ac 16 oed gysylltu â nyrs ysgol am gyngor a chymorth cyfrinachol trwy neges destun.  

Mae Parentline ar gael i bob rhiant a gofalwr sydd â phlant rhwng 5 ac 16 oed, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu haddysgu gartref.

I gysylltu â nyrs ysgol, anfonwch neges destun at 07312 263178. Bydd negeseuon testun yn cael eu monitro rhwng 8.30am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) a nod tîm Nyrsio Ysgol BIP Caerdydd a’r Fro yw ymateb o fewn un diwrnod gwaith.  

Gall nyrs ysgol gynnig cymorth a chefnogaeth ar gyfer ystod eang o bynciau, gan gynnwys:  

  • Lles emosiynol 

  • Gwlychu yn ystod y dydd a'r nos  

  • Baeddu 

  • Bwyta’n iach 

  • Ymddygiad 

  • Cydberthnasau  

Gall y tîm hefyd drefnu i chi siarad â nyrs ysgol eich plentyn os yw'n well gennych.  

Ni fydd negeseuon testun yn cael eu gweld y tu allan i oriau gwaith arferol. Os oes angen help arnoch cyn clywed gan y tîm, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ffoniwch 111.  

Mae Parentline yn cefnogi negeseuon testun o rifau symudol y DU ac nid yw'n derbyn galwadau llais na negeseuon llun MMS. Codir tâl am negeseuon testun ar eich cyfraddau arferol.  

Dilynwch ni