Rydym yn wasanaeth a arweinir gan nyrsys sydd wedi’u hyfforddi i asesu a rheoli plant sy’n profi’r canlynol:
Cyn i'r atgyfeiriad gael ei dderbyn i'r gwasanaeth byddech wedi cael ymyriad llinell gyntaf gyda’r ymwelydd iechyd/gwasanaeth nyrsio ysgol.
Rydym wedi ein lleoli yn Ysbyty Dewi Sant ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Treganna, Caerdydd, CF11 9XB).
Rhif ffôn: 02921 836836.
E-bost: Childrenscontinence.enquiries.cav@wales.nhs.uk
Ond rydym yn cynnal clinigau yng Nghanolfan Plant Dewi Sant, Canolfan Iechyd y Bont-faen, Gofal Iechyd Sylfaenol Tredelerch, Canolfan Plant Llandochau, Hyb Llesiant Maelfa.
Mae angen siartiau mewnbwn/allbwn tri diwrnod cyn trefnu asesiad cychwynnol.
Bydd yr apwyntiad cyntaf dros y ffôn:
Cynhelir apwyntiadau dilynol mewn clinig neu dros y ffôn.
Byddwch ond yn cael apwyntiad gyda meddyg os:
Ein nod yw helpu cymaint o blant â phosibl i ddod yn hollol lân ac yn sych. Efallai na fydd hyn yn bosibl i bob plentyn.
Os byddwch yn canslo dau apwyntiad yn olynol byddwn yn rhyddhau'r plentyn o'r gwasanaeth.
Os na fyddwch yn dod â’r plentyn i apwyntiad clinig heb ei ganslo, byddwn yn rhyddhau’r plentyn o’r gwasanaeth
Ar ôl rhyddhau o'r gwasanaeth, bydd angen atgyfeiriad newydd os oes angen cymorth ychwanegol.
Rydym yn hoffi cael adborth am y gwasanaeth a gynigiwn.
Gallwch wneud awgrymiadau neu sylwadau drwy
Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu a Phediatregwyr. Cynhelir asesiad pledren a choluddyn iach lefel un yn y lle cyntaf drwy eu hymwelydd iechyd penodol os o dan 5 oed, neu drwy’r gwasanaeth nyrsio ysgol.
ERIC - yr Elusen Coluddyn a Phledren Plant
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol addysg a'r blynyddoedd cynnar am blant a phobl ifanc ag anhwylder y coluddyn neu'r bledren.
Teleffon: 0845 3709009
Gwefan: www.eric.org.uk
Bladder and Bowel UK
Cyngor a gwybodaeth am holl faterion y bledren a'r coluddyn ymhlith plant a phobl ifanc gan gynnwys y rheini ag anghenion ychwanegol.
Gwefan: www.bbuk.org.uk/children-young-people/
Teleffon: 0161 6078219
Canllawiau NICE
Rheoli Gwlychu'r Gwely ymhlith plant a phobl ifanc
https://www.nice.org.uk/guidance/cg111
Rhwymedd ymhlith plant a phobl ifanc: diagnosis a rheoli
https://www.nice.org.uk/guidance/cg99
Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd
Gwefan: Yma
Nyrsys Ysgol
Gwefan: Yma
Parentline - Gwefan: Yma
(Diweddarwyd Ionawr 2024)
Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd