Neidio i'r prif gynnwy

Plant sy'n Derbyn Gofal

Mae'r tîm iechyd plant sy'n derbyn gofal yn gyfrifol am arwain ar wella iechyd tra'n lleihau unrhyw anghydraddoldebau iechyd i blant a phobl ifanc sy'n byw yn yr ardal leol. 

 

Asesiadau iechyd 

Mae asesiad iechyd ar gyfer plentyn neu berson ifanc mewn gofal yn asesiad cyfannol o’u hanghenion corfforol, emosiynol ac ymddygiadol. Nid yw’n ddigwyddiad ynysig, ond yn rhan o broses o ofal parhaus gan gynnwys monitro a hybu iechyd y plentyn. 

Bydd plant sy'n derbyn gofal yn cael asesiad iechyd cychwynnol wedi'i gwblhau wrth ddechrau gofal, o fewn 28 diwrnod yn ddelfrydol. 

Bydd plant 0-5 oed yn cael adolygiad o asesiad iechyd bob 6 mis ac fe’i cynhelir ar gyfer plant 5-18 oed yn flynyddol. Bydd yr asesiadau iechyd hyn yn cael eu cwblhau gan y tîm gartref, mewn lleoliad clinig neu’n rhithwir yn dibynnu ar ddewis y plentyn neu'r person ifanc. Yna caiff Cynllun Iechyd ei lunio mewn partneriaeth â'r plentyn, y person ifanc a'r gofalwr. 

 

Gall y tîm ddarparu cymorth gyda’r canlynol:

  • Trin cyflyrau iechyd 
  • Iechyd rhywiol 
  • Iechyd a lles emosiynol 
  • Ysmygu 
  • Cysgu 
  • Defnydd o gyffuriau ac alcohol 
  • Maeth a hydradu 
  • Monitro twf 
  • Enwresis ac ymataliaeth  
  • Atgyfeiriadau at asiantaethau allanol a mewnol 
  • Cyfeirio at wasanaethau priodol  
  • Cyngor a chymorth imiwneiddio 

 

Pwy ydym ni  

Rydym yn dîm sy'n cynnwys Pediatregwyr, Nyrsys Arbenigol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a chymorth gweinyddol. Mae’r tîm yn brofiadol ac yn wybodus am anghenion corfforol ac emosiynol plentyn sy’n derbyn gofal a sut mae eu profiadau o drawma ac esgeulustod yn y gorffennol yn effeithio ar eu cydberthnasau a’u hiechyd, lles a datblygiad yn y dyfodol.  

Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau plant, pediatregwyr, ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, meddygon teulu a gwasanaethau eraill sy'n cefnogi plant sy'n derbyn gofal. 

 

Cysylltwch â ni 

Rydym wedi ein lleoli yn Nhŷ Coetir, Ffordd Maes y Coed, Caerdydd CF14 4HH 

Rhif ffôn: 02921832040/02921832038 

E-bost: Lookedafterteam.cav@wales.nhs.uk 

 

DOGFEN FFRAMWAITH ASESU IECHYD LAC GIG CYMRU

 

(Diweddarwyd Ionawr 2024)

Dilynwch ni