Croeso i'r Gwasanaeth Ffisiotherapi Cymunedol i Blant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Rydym yn dîm o Ffisiotherapyddion, sy'n aelodau cofrestredig o'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), Hyfforddwyr Technegol Ffisiotherapi hyfforddedig, a staff gweinyddol. Darparwn wasanaeth Ffisiotherapi Plant a Phobl Ifanc arbenigol i blant a phobl ifanc sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae gennym ddealltwriaeth helaeth o ddatblygiad plant ac anhwylderau plentyndod, gan gynnwys problemau datblygiadol, niwrolegol a chyhyrysgerbydol.
A ninnau'n Ffisiotherapyddion Paediatrig, rydym yn arbenigo mewn gweithio gyda phlant. Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yw Ffisiotherapyddion sy'n hyrwyddo gwellhad ac yn helpu pobl i wneud y mwyaf o'u gallu, yn dilyn salwch, anabledd neu anaf. Rydym yn helpu i wella ac adfer gallu drwy weithgarwch corfforol fel ymarfer a symud, yn ogystal â rhoi cyngor ac adnoddau arbenigol.
Beth allwn ei ddarparu:
Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd