Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Croeso i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi cychwyn iachus mewn bywyd i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth iddynt dyfu a datblygu. Ein nod yw sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yn gallu cyflawni hyd eithaf eu gallu a bod yn gorfforol ac emosiynol iachus.

Mae ein tîm o weithwyr proffesiynol tra medrus yn gweithio ochr yn ochr â rhieni, plant a phobl ifanc i gefnogi eu hanghenion o enedigaeth i 18 oed. Gweithiwn hefyd mewn partneriaeth agos â sefydliadau eraill i gefnogi teuluoedd ac i ddiogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Darparwn wasanaethau gofal integredig a graenus i blant ag anableddau ac anghenion cymhleth, y rheini ag anawsterau datblygiadol, anawsterau ymddygiadol a phryderon iechyd meddwl a lles emosiynol, yn ogystal â phlant a phobl ifanc mewn amgylchiadau arbennig fel y rheini mewn gofal.

Mae'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn darparu ystod eang o wasanaethau yn safleoedd y Bwrdd Iechyd ac ar draws y gymuned, gan gynnwys mewn ysgolion. I gael gwybod rhagor, cliciwch ar y gwasanaethau isod.

Ein haddewid i chi

Mae ein Siarter Iechyd Plant a Phobl Ifanc yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, sut y darparwn ein hamrywiaeth o wasanaethau, a sut y byddwn yn sicrhau y bydd y rheini sy'n defnyddio'r gofal a ddarparwn yn cael eu cynnwys yn weithgar. 

Lawrlwythwch gopi o'r Siarter yma

Cysylltwch â Ni

Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Woodland House
Maes y Coed Road
Caerdydd
CF14 2HH

Teleffon: 029 2183 6574


Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg.

Dilynwch ni