Mae hawl gan rai pobl mewn cartrefi gofal nyrsio gael help gyda'u costau, ac mae Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG yn cyfeirio at ofal a ddarperir gan nyrs gofrestredig mewn cartref gofal nyrsio dynodedig. Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn gyfrifol am ddarparu Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG i ddau grŵp o bobl - pobl sy'n ariannu'u gofal eu hunain a phreswylwyr cartrefi nyrsio sy'n bodloni meini prawf cymhwystra penodol ar gyfer nyrsio. Rydym ni'n cyflogi Aseswyr Nyrsio i helpu gyda'r cyfrifoldeb hwn.
Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn becyn gofal a drefnir ac a ariennir gan y GIG yn unig i unigolion y maes asesiad yn dangos bod ganddynt angen iechyd sylfaenol.
Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am Ofal Iechyd Parhaus, mae ein tîm yn darparu sesiynau ymwybyddiaeth ynghylch y broses ar ddydd Llun cyntaf bob mis.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Ofal Iechyd Parhaus neu am Ofal Iechyd a Ariennir gan y GIG, cysylltwch â'r Timau Aseswyr Nyrsio Ardal fel a ganlyn:
Gogledd a Gorllewin Caerdydd Adeilad Ardal y Gogledd a'r Gorllewin / North and West Locality Building Ffôn: 029 2183 2546 |
De a Dwyrain Caerdydd Ysbyty Brenhinol Caerdydd Ffôn: 029 2033 5980 |
Bro Morgannwg Ty Jenner |
Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i llenwi am Ofal Iechyd Parhaus y GIG i:
E-bostio'r cais
E-bost: retro.chcadmin@wales.nhs.uk
Ffôn: 029 2033 5507
Ardaloedd De a Dwyrain Caerdydd
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Glossop Road
Caerdydd
CF24 0SZ
Rhagor o wybodaeth am gartrefi gofal yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a rôl Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)