Rôl AGGCC yw cynnal asesiadau proffesiynol a llunio barn am wasanaethau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol ac, felly, annog gwelliant gan ddarparwyr gwasanaethau.
Gwnânt hyn trwy dri rhanbarth sy'n cwmpasu Cymru (y gogledd, y de-ddwyrain a'r gorllewin), sy'n ffocws ar gyfer asesu proffesiynol a barnu am wasanaethau a sefydliadau. Mae manylion cyswllt y swyddfeydd hyn ar gael ar wefan AGC.
Maent yn arolygu ac yn adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, ac yn rheoleiddio ac yn arolygu lleoliadau ac asiantaethau gofal.
Mae AGGCC yn rheoleiddio:
Mae'r rheoleiddio'n cynnwys:
Maent yn cyhoeddi adroddiadau ar ganfyddiadau eu hasesiadau, sydd ar gael ar adran gyhoeddiadau eu gwefan ar www.arolygiaethgofal.cymru
Cyfeiriad swyddfa'r de-ddwyrain yw:
Adeiladau'r Llywodraeth
Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 4UZ
Ffôn: 0300 7900 126 (Rhif ffôn cenedlaethol AGGCC)
Ffacs: 0872 437 7302
E-bost: AGC@llyw.cymru
Mae manylion cyswllt llawn ar gael ar wefan AGC.
Mae'n bosibl cael gwybodaeth am Safonau Gofal Cenedlaethol, cartrefi gofal penodol, gan gynnwys eu statws cofrestru, a chopïau o adroddiadau arolygu o'r cyfeiriad uchod.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu broblemau'n gysylltiedig â chartref gofal cofrestredig, cysylltwch ag AGC.
Mae gwybodaeth ychwanegol am y rhan fwyaf o gartrefi nyrsio cofrestredig yn y DU i'w chael ar wefan Bettercaring ar www.bettercaring.co.uk.