Neidio i'r prif gynnwy

Mae Pob Moment o Bwys

Gwyddom pa mor bwysig yw gofal diwedd oes tosturiol, parchus ac urddasol i gleifion a’u hanwyliaid. I gefnogi hyn, mae Tîm Gofal Lliniarol yr Ysbyty wedi cyflwyno Mae Pob Moment o Bwys i helpu i greu amgylchedd tawelach a mwy heddychlon yn ystod y cyfnod arwyddocaol hwn. 

Mae’r fenter ‘Mae Pob Moment o Bwys’ wedi'i dylunio i wella urddas a pharch tuag at gleifion yn nyddiau olaf eu bywydau. Fel rhan o hyn, bydd symbol newydd yn cael ei gyflwyno ar draws ein hardaloedd clinigol i godi ymwybyddiaeth pan fydd claf yn derbyn gofal diwedd oes. 

Os bydd claf neu ei anwyliaid yn dewis arddangos y symbol hwn, bydd yn fodd i atgoffa cleifion eraill, ymwelwyr a chydweithwyr i fod yn ystyriol ac i fynd at yr ardal gydag ymwybyddiaeth, sensitifrwydd a pharch ychwanegol. 

Os gwelwch y symbol hwn yn cael ei arddangos yn ardal claf, byddwch yn ymwybodol o lefelau sŵn, ac ystyriwch y rhai gerllaw. 

Drwy gyflwyno’r fenter hon, ein nod yw creu man tawelach, mwy heddychlon i gleifion a’u hanwyliaid, gan sicrhau eu bod yn cael y preifatrwydd, yr urddas a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Gall y cam bach ond ystyrlon hwn wneud gwahaniaeth sylweddol yn y profiad o ofal diwedd oes yn ein hysbyty. 

Sut alla i ofyn am y symbol ar gyfer fy anwylyd? 

Rydym yn cydnabod bod profiad a hoffterau unigol pawb yn unigryw. Os teimlwch y byddai'r symbol hwn yn helpu i greu man tawelach, mwy preifat i'ch anwylyd, siaradwch ag aelod o staff.  

Dim ond gyda chaniatâd claf neu deulu y caiff y symbol ei arddangos a phan fydd gofal y claf yn cael ei gefnogi gan Ganllaw Penderfyniadau Gofal Cymru Gyfan ar gyfer Dyddiau Olaf Bywyd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y fenter hon, siaradwch ag aelod o staff neu cysylltwch â Thîm Gofal Lliniarol yr Ysbyty ar 02920 184 3377. 

Dilynwch ni